Newyddion Diweddaraf

Plannu masarnen yn Nhreborth i nodi llwyddiant graddedigion newydd

Mae'r Ysgol Gwyddorau Naturiol wedi nodi llwyddiant myfyrwyr oedd ar flwyddyn olaf eu hastudiaethau yn 2020-21 drwy blannu masarnen goch yn yr Ardd Tsieineaidd yng Ngardd Fotaneg Treborth.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2021

Rhaglen BBC Cymru yn Nhreborth

Croesawom Sam a Shauna a'u criw ffilmio anhygoel i ffilmio Big Cook Out i BBC Cymru yn ein gardd Tsieineaidd gyda phobl leol dalentog iawn! IYM!

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2019

Gwyddonydd o Brifysgol Bangor yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan brifysgol o Chile

Yn ddiweddar mewn seremoni yn yr Universidad de Magallanes (UMAG) dyfarnwyd 'doctor honoris causa' i Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor. Mae'r UMAG yn ninas Punta Arenas ar Gulfor Magellan yn ne Chile. Mae Dr Russell wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil botanegol yn y rhanbarth yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf. Yn Tierrra del Fuego ceir amrywiaeth hynod eang o fwsoglau a llysiau'r afu, a ystyrir yn bryoffytau, ac fe wnaeth gwaith Dr Russell ar y planhigion bychain hyn - ond pwysig yn ecolegol - gyfrannu'n uniongyrchol at greu 'Gwarchodfa Biosffer Penrhyn yr Horn' yno yn 2005.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2019

Yr ardd ar gau heddiw

Oherwydd gwyntoedd uchel, bydd yr ardd ar gau heddiw (dydd Mercher, 28 Tachwedd). Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018

Dr Sophie Williams yn agoriad swyddogol mynedfa Porth y Lleuad i'r Ardd Tsieineaidd newydd yng Ngerddi Botaneg Treborth, Bangor.

Yn ystod gwyliau haf 2016 Prifysgol Bangor, gwahoddwyd Dr Sophie Williams a'i phartner Robert, ynghyd â staff o Uned Ddibyniaeth Uchel Ysbyty Gwynedd, i Erddi Botaneg Treborth. Mae Dr Williams (32) yn parhau i adfer ei hiechyd ar ôl dal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra oedd yn gweithio ar broject ymchwil yn ne Tsieina yn ystod 2015. Torrodd Sophie y rhuban wrth fynedfa 'Porth y Lleuad' i'r Ardd Tsieineaidd, rhan sydd newydd ei chynllunio a'i phlannu o Erddi Botaneg Treborth Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2016