Staff yr Ardd

Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr

Mae Shaun wedi dal swyddi darlithio yn y gwyddorau amgylcheddol ym Mhrifysgol Fort Hare (alma mater Nelson Mandela) a Phrifysgol Rhodes yn Ne Affrica; bu'n Ddeon Cyfadran y Gwyddorau ym Mhrifysgol Namibia yn ystod y cyfnod pan oedd y wlad honno'n mynd yn annibynnol ac roedd yn gyd-awdur y cymalau ar yr amgylchedd yng Nghyfansoddiad Cenedlaethol Namibia. Bu'n gweithio i Raglen Fiolegol Antarctig De Affrica ac i Arolwg Antarctig Prydain, ac yng nghanol y 1990au roedd yn Ymgynghorydd Amgylchedd llawn-amser gyda'r Cyngor Prydeinig. Bu Shaun hefyd yn gweithio i'r Durrell Institute of Conservation and Ecology ym Mhrifysgol Caint yng Nghaergaint, i Ganolfan Ryngwladol Tirweddau a Warchodir ym Mhrifysgol Aberystwyth ac i'r Ganolfan Astudiaethau Tir Cras ym Mangor. Yn fwyaf diweddar roedd Shaun yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, uned troi gwyddoniaeth yn bolisi a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Mae ei waith yn cynnwys arwain y tîm a baratôdd bennod Cymru o Asesiad Ecosystem Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

Cysylltu â Shaun:  s.russell@bangor.ac.uk

Natalie Chivers, Curadur

Natalie ChiversCafodd Natalie radd MEnvi mewn Gwyddor yr Amgylchedd o Brifysgol Bangor cyn hyfforddi gyda'r Royal Horticultural Society a Gardd Fotaneg Gothenburg. Yna astudiodd am radd MSc Cadwraeth Planhigion ym Mangor cyn dechrau fel Curadur yn Awst 2015. Fel Curadur yr Ardd, mae Natalie'n gyfrifol am reoli'r casgliadau byw, sy'n cynnwys dros 200 o rywogaethau. Mae ei phrif feysydd cyfrifoldeb yn cynnwys cynllunio cyfeiriad y casgliadau yn y dyfodol, goruchwylio chwilio am rywogaethau newydd ac amrywiol a'u cofnodi, arwain tirlunio a chynllunio'r ardd a hyrwyddo defnyddio'r casgliadau ar gyfer ymchwil ac addysgu.

Cysylltu â Natalie: n.j.chivers@bangor.ac.uk

Jane Smith, Gweinyddwr yr Ardd

Jane Smith yw gweinyddwr rhan-amser Gardd Fotaneg Treborth. Dechreuodd weithio ym Mhrifysgol Bangor 15 mlynedd yn ôl fel swyddog cyllid yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ac, yn fwy diweddar, bu'n weinyddwr Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru.

Cysylltu â Jane: j.p.smith@bangor.ac.uk

Rosie Kressman, Technegydd Garddwriaethol

Daeth Rosie i Dreborth ym Medi 2014 ar ôl gweithio am flynyddoedd ar brojectau datblygu cymunedol ac amgylcheddol. Mae Rosie'n gyfrifol am ofalu o ddydd i ddydd am y casgliadau byw, a chydlynu'r gweithlu o wirfoddolwyr.

Cysylltu â Rosie: r.kressman@bangor.ac.uk