Tŷ Tymherus 

Mae ein casgliad o blanhigion Tŷ Tymherus yn cynnwys llawer o rywogaethau egsotig ac anarferol o'r rhanbarthau tymherus sy'n rhychwantu Affrica, Awstralia, Seland Newydd, Asia ac Ynysoedd Môr y De.

Mae uchafbwyntiau'r tŷ gwydr yn cynnwys y Casgliad Cacti a Suddlon, gyda rhywogaethau sydd wedi ymaddasu i ymdopi â thymheredd uchel iawn yn ystod y dydd a chyflenwadau dŵr isel, a'r Casgliad Bylbiau De Affrica sy'n dibynnu ar y glawiad uchel a geir yn y Penrhyn yn y gaeaf (Mai-Gorffennaf).

Mae'r Tŷ Tymherus hefyd yn cynrychioli endemigrwydd, yn arbennig o Ynys Tenerife yn yr Ynysoedd Dedwydd.  Oherwydd gwreiddiau folcanig yr ynys mae llawer o'r planhigion wedi datblygu ar wahân wedi'u hynysu oddi wrth y tir mawr, gan arwain at raddau uchel o endemigrwydd.  Bob blwyddyn mae myfyrwyr o Fangor yn mynd i'r ynys i astudio'r planhigion, yr anifeiliaid a'r priddoedd.  Ymysg rhai planhigion nodweddiadol y gellwch eu gweld yn y gwely ceir pinwydd yr Ynysoedd Dedwydd ( Pinus canariensis ), cennin tŷ ( Aeonium  sp.), blodau clychau'r Ynysoedd Dedwydd ( Canarina canariensis ) a wermod (Artemisia canariensis). 

Dewch draw i'r Tŷ Tymherus i fwynhau'r amrywiaeth o liw o'n sbesimenau gwych o flodau aderyn paradwys ( Strelitzia reginae ), Bougainvillea pinc llachar, blodau oren tiwbaidd y llwyn marmaled ( Streptosolen jamesonii ) a hefyd rywogaethau o goed rhedyn, tegeirianau a phalmwydd.

Twmpath o Gacti (a phlanhigion suddlon eraill)

Ychydig o ddiffiniadau cyn i ni ddechrau.  Mae cacti (unigol: cactws) yn aelodau o deulu'r Cactaceae - mae'r rhan fwyaf ohonynt yn suddlon ac yn frodorol i'r Americas.  Mae suddlonedd yn cyfeirio at gynnwys a chyfaint dŵr uchel, ond arwyneb bychan - gwelir hyn yn ei ffurf fwyaf eithafol yng nghyrff sfferig yr Euphorbia obesa. Byddai'r diffiniad eang hwn yn cynnwys bylbiau, tegeirianau a haloffytau suddlon (yn cynnwys Salicornia ein morfeydd heli lleol), ond yn y cyd-destun hwn fe'i defnyddir ar gyfer grŵp amhendant o seroffytau noddlawn. Er nad yw gwahaniaethau'n glir bob amser, gellir adnabod rhai grwpiau eang.  Mae gan blanhigion suddlon deiliog symiau amrywiol o ddŵr yn eu dail, yn amrywio o gymharol ychydig mewn rhai rhywogaethau o Yucca ac Agave, i rywbeth sy'n agos iawn at y suddlon sfferig delfrydol mewn rhai aelodau o'r Aizoaceae. Nid yw Lithops ("Cerrig Byw") yn enghreifftiau gorau o'r rhain, ond hwy efallai yw'r mwyaf cyfarwydd. Mae gan blanhigion suddlon coesynnog (er enghraifft, yr rhan fwyaf o gacti) goesynnau trwchus, gwyrdd sy'n ffotosyntheseiddio ac ychydig o ddail (os o gwbl).  Mae gan pachycauls hefyd goesynnau trwchus, ond mae'r rhain fel rheol i storio dŵr a maetholion.  Fel rheol maent yn frown a ddim yn ffotosyntheseiddio.  Cyflawnir ffotosynthesis fel rheol gan ddail ansuddlon ar goesynnau collddail.  Enghraifft yw "Troed yr Eliffant" ( Dioscorea (Testudinaria) elephantipes)  – iam o Dde Affrica sydd o'r un teulu â'n gwinwydd duon ni,  Tamus communis) sydd yn y gwely ar yr ochr dde (wrth edrych o'r drws) yn y Tŷ Tymherus - ond cymharwch hwn â'r Bowiea volubilis gerllaw – bylb ar yr wyneb gyda fflurgainc sy'n ffotosyntheseiddio.

Cymharol ychydig deuluoedd o blanhigion sydd wedi datblygu enghreifftiau o suddlonder, yn cynnwys Cactaceae, Euphorbiaceae ac Asclepiadaceae (planhigion coesynnau suddlon gan mwyaf), Didieriaceae and Apocynaceae (pachycauls), Asphodelaceae, Agavaceae, Crassulaceae ac Aizoaceae (planhigion dail suddlon).

Hanes y Casgliad

Sefydlwyd y casgliad suddlon yn Nhreborth ganol y 1970au.  Ychwanegwyd gwahanol gasgliadau a phlanhigion unigol dros y blynyddoedd.  Yn 1977 ffurfiwyd y gwely o blanhigion tir cras - yn cynnwys y Cycas revoluta o ynys Kyushu yn Japan -  er iddi fwrw glaw gryn dipyn pan oeddem ni yno!

Cafodd y twmpath estynedig o gacti a phlanhigion suddlon ei lunio yng ngwanwyn 2008 gan ddefnyddio compost wedi'i ailgylchu (1:1 John Innes No.1 a thywod bras) o arbrawf yng Ngorsaf Ymchwil Pen-y-ffridd ar allu ffacbys o Bacistan i wrthsefyll sychder.

Mae'r gwelyau cactws a suddlon yn y Tŷ Tymherus wedi'u trefnu'n ddaearyddol, gan ddechrau ar y chwith gyda phlanhigion suddlon o Affrica, yn cynnwys rhai o Lesotho (yn y gornel chwith bellaf).  Wrth symud i'r dde, rydym yn dod at rywogaethau Gogledd America.  Roedd y rhan fwyaf o'r cacti yn y gwely cactws gwreiddiol tua chefn y Tŷ Tymherus yn rhy fawr i'w symud.  Daw llawer ohonynt o Dde America.  Mae rhywogaethau llai o Dde America i'r dde o'r prif wely.  Y gwely ar y dde yw'r eithriad i'r trefniant daearyddol hwn ac mae'n bennaf ar gyfer rhywogaethau sy'n hoffi cysgod rhannol.

CITES, Cadwraeth a Chasgliadau

Mae rhai cacti a phlanhigion suddlon wedi'u cyfyngu i ardaloedd daearyddol bychan iawn - dim ond ochr un bryn mewn rhai achosion - ac felly maent yn wynebu peryglon megis dinistrio cynefin, gor-bori a chael eu symud o'u cynefin gan gasglwyr preifat a masnachol.  Mewn ymgais i leihau'r broblem olaf, mae'r fasnach ryngwladol mewn planhigion cactws (ond nid hadau, ac eithrio hadau cactws wedi'u casglu yn Mecsico) yn cael ei chyfyngu gan CITES (Convention on International Trade in Endangered Species).

Nid yw hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar argaeledd y rhywogaethau hyn o fewn y Deyrnas Unedig neu wledydd eraill ac nid yw'n lleihau'r ddwy broblem gyntaf chwaith.  Mae'r rhywogaethau o gacti, alwys, Euphorbias suddlon, sycadau a thegeirianau'n syrthio o fewn atodiad II CITES, tra bo rhai yn nosbarth atodiad I sydd fwy dan fygythiad.  Mae symud y rhain yn rhyngwladol wedi'i gyfyngu i resymau anfasnachol (gwyddonol a chadwraeth) ac mae angen trwyddedau mewnforio ac allforio penodol.

Mae Llywodraeth Mecsico wedi rhoi cyfyngiadau tynnach fyth ar symud eu cacti brodorol, i'r graddau bod cadwraeth rhai rhywogaethau ex-situ mewn gerddi botanegol wedi cael ei wneud yn anoddach. Mae nifer o rywogaethau sy'n gyffredin mewn gerddi botanegol wedi cael eu 'colli' yn y gwyllt erbyn hyn, a gellid defnyddio planhigion wedi'u meithrin i'w hailgyflwyno i'w cynefinoedd naturiol - pe gellid amddiffyn y cynefinoedd hynny.

Mae yna ddilema sef bod y galw am rywogaethau prin a rhai newydd eu darganfod yn bygwth eu goroesiad yn y gwyllt, ond y gall meithrin meinwe a lluosogi masnachol roi'r gobaith gorau am oroesiad tymor hir rhai rhywogaethau.  Enghraifft o hyn yw'r alwys troellog, Aloe polyphylla, o Lesotho. Mae eginblanhigion A. polyphylla yn Nhreborth yn adnodd pwysig a dylai gynhyrchu hadau newydd mewn amser.