Gardd Gors

Nid yw llawer o ymwelwyr sy'n dod i Dreborth yn gwybod bod 'gardd gors' gynnar wedi'i chuddio o fewn coetir tamp a thrwchus lai na dau gan metr i'r gogledd o'r labordy tanddaearol (rhizotron).  Mae'n gorchuddio llecyn tua 20 metr wrth 30 metr ar dir sy'n goleddfu ychydig i'r gogledd ac sy'n socian oherwydd dŵr codi.

Lawer o flynyddoedd yn ôl, efallai yn ystod ymdrechion arloesol Joseph Paxton i greu Parc Britannia yn 1850, agorwyd ffosydd draenio metr o ddyfnder o amgylch y safle hwn. Erbyn hyn mae'r rhain wedi hen gau gan achosi corstir gydol y flwyddyn yn y llecyn.

Yr ychwanegiad mwyaf at y casgliad o goed rhedyn yn yr Ardd Gors yw'r Cyathea medullaris, y Rhedynen Cleddyf Arian 4 metr o uchder ac arwyddlun balch Seland Newydd.

Fe wnaeth tîm o 4-6 o fyfyrwyr godi'r sbesimen hwn o'r Tŷ Tymherus a'i symud i gornel ogledd-orllewinol yr Ardd Gors.  Gerllaw maent wedi plannu sbesimen 10 oed o Todea barbara, aelod deiliog o deulu Rhedynen y Dŵr, Osmundaceae. Mae hwn ymhlith yr hynaf o deuluoedd planhigion sydd wedi goroesi'n ddigyfnewid, gyda thras sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod Permaidd, 275 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae cloddiau'r ffosydd yn rhoi angorfeydd ychydig sychach i sawl rhywogaeth o redyn Pteris, Asplenium, Cyrtomium  ac  Woodwardia. Dros y gaeaf caiff y canopi o fedw a llwyfenni uwchben yr Ardd Gors ei deneuo'n ofalus a chaiff y Rhododendron ponticum ymledol ei docio. Dylai gwaith pellach o glirio'r ffosydd ddatgelu gwir faint y gwaith cloddio gwreiddiol ac mae rhagolygon y daw nodwedd ddeniadol, a phur ddiddorol yn hanesyddol, i'r amlwg unwaith eto.