Ffyngau

Gyda'i chyfuniad o erddi â lawntiau, coed enghreifftiol, ac amrywiaeth o ecosystemau coetirol, mae amrywiaeth helaeth o ffyngau i'w gweld yn yr ardd fotaneg. O ddiwedd yr haf ymlaen mae'r madarch a'r caws llyffant cyfarwydd yn dechrau ymddangos. Mae'n hawdd eu gweld yn tyfu o dan y coed enghreifftiol, sef bedw ac oestrwydd, a hwyrach byddwch yn gweld y cap marwol gwyrdd drwg-enwog (Amanita phalloides), a Lactarius circellatus, sy'n tyfu'n benodol o dan yr oestrwydden.   Yn y coetiroedd eu hunain, mae ffyngau gwahanol yn gysylltiedig â'r coed derw, bedw a ffawydd.  Mae ystod eang o fathau o bridd yn fodd i hybu amrywiaeth ehangach o ffyngau. Gwell gan y Cap Marwol bridd mwy calchaidd tra bo Amanita'r Gwybed lliwgar (Amanita muscaria) yn gysylltiedig â'r priddoedd mwy asidig o dan y fedwen. 

Hyd yn oed yn y tai gwydr gwelir y ffyngau saproffytig yn achub ar eu cyfle. Ymysg y rhain mae’r  Leucocoprinus sulfurii a'i gap melyn llachar, y seren ddaear fechan ar ffurf llosgfynydd,Geastrum striatum, a'r ffwng a fedyddiwyd â'r enw anghynnes y Gloronen Llysnafedd Drewllyd, Melanogaster ambiguus.

Mae mycota (neu fflora ffyngol) yr ardd fotaneg yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus yng Ngogledd Cymru a chynhelir teithiau hel ffyngau yno ers dros dri deg o flynyddoedd. Nid oes raid i chi fod yn arbenigwr i ryfeddu at yr amrywiaeth anhygoel o gaws llyffant,  codau mwg, ffyngau jeli a chingroen a welir ar y teithiau hyn. Ers 2013 cynhelir y teithiau hyn ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Ffwng rhwng dechrau a chanol Hydref ac ar bob taith gwelir rhywogaethau prin iawn; yn 2013 daethpwyd ar draws Callistosporium pinicola ar bren pinwydd pwdr. Dim ond ar un safle arall ym Mhrydain y darganfuwyd ef! Hefyd, mae lliaws o ffyngau llai a disylw sydd yn dal heb eu darganfod a phwy a ŵyr beth allai ddod i'r golwg yn y dyfodol!