Cennau

Nid oes rhestr gynhwysfawr o'r cennau a welwyd yn Nhreborth ond mae'r safle'n gyfoethog mewn rhywogaethau epilithig gan gynnwys amrywiaeth dda o Parmelia. Serch hynny mae rhywogaethau llwynaidd yn eithaf prin, a dim ond ar ychydig o goed y gwelir cytrefi da o Usnea.   Ymysg y swbstradau gorau mae rhisgl y coed o bobtu i’r brif rodfa (coed onn, ceirios a sycamorwydd) a chanopïau uwch y coed onn mwy yn y coetir hynafol. Mae rhai o'r hen goed cyll aeddfed yn y coetir hynafol yn lle ardderchog i ddod o hyd i gennau cramennog.