Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn Nhreborth yn ffordd wych o ddysgu mwy am blanhigion a'r amgylchedd naturiol.  Yn wir, mae llawer o'r ardd yn cael ei chynnal a'i chadw drwy gefnogaeth gwirfoddolwyr ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gawn.   Os oes gennych ddawn arbennig ym maes garddio, neu dim ond yn awyddus i ddysgu, mae pob croeso i chi yn yr Ardd!
Mae tasgau y gellwch ymwneud â hwy yn cynnwys:

  • Volunteers at TreborthLluosogi planhigion
  • Cynnal a chadw tai gwydr a gwelyau
  • Chwynnu
  • Gwrteithio
  • Cynnal a chadw heb fod yn waith garddwriaethol
  • Cynorthwyo mewn digwyddiadau (e.e. gwerthu planhigion)
  • Cynrychioli Treborth mewn digwyddiadau allanol

Mae dyddiau gwirfoddoli ar ddyddiau Mercher a Gwener, ond os hoffech wirfoddoli ar ddiwrnod arall, e-bostiwch i wneud trefniadau.