Bryoffytau

Mae dros 100 tacson o fryoffytau wedi cael eu cofnodi gyda'r amrywiaeth gorau ym mannau coediog llaith yr ardd fotaneg yn ogystal â'r rhuthrau dŵr calchaidd ar hyd traethlin Afon Menai. Gerllaw Rhaeadr Paxton, rhaeadr naturiol a addurnwyd gan waith tirlunio yn y 19eg ganrif ceir nifer o rywogaethau o lysiau'r afu thaloid, megis Pellia epiphyllaaP.endiviifolia, Conocephalum conicumaC. salebrosum. Mae llys yr afu bychan deiliogColura calyprifolia, rhywogaeth o'r de sy'n ymledu, i'w weld yn fynych ar hen goed afalau.

Mae llys yr afu deiliog arall ond un llawer mwy, Plagiochila asplenioides yn ffurfio carped toreithiog o dan coed helyg a bedw mewn coetir gwlyb yn rhan ganolog yr ardal goediog tra bod y toreth o fwsoglau pliwrogarpaidd epiffytig yn dyst i natur laith y coetir yn gyffredinol. Mae gan Hookeria lucens, mwsogl cain tebyg i lysiau'r afu, ddeil-gelloedd arbennig o fawr y gellir eu gweld â'r llygad, i'w weld yn fynych yn y mannau llaith cysgodol. Mae un neu ddwy gytref fach o Sphagnum palustrea gwelir cyrnddail, Phaeoceros laevis yn ymsefydlu mewn mannau graeanog llaith ger y tai gwydr.  Mae llys yr afu thaloid arnofiol, Riccia fluitans yn ychwanegiad diddorol gweddol ddiweddar. Ceir tipyn ohono ambell flwyddyn yn y pwll gwreiddiol yn yr ardd.