Perllan Dreftadaeth Gymreig

Welsh Heritage Fruit Orchard

Yn ddiweddar plannwyd Perllan Ffrwythau Treftadaeth Gymreig, i addysgu ac ysbrydoli'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch coed ffrwythau brodorol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys Coed Eirin Dinbych, Afallen Ynys Enlli, a choed ceirios Cariad. Rhywogaethau prin ac arbennig yw'r rhain sydd â hanes hir a diddorol yng Nghymru. Yn enwedig afallen Enlli na cheir hyd iddi yn unman arall yn y byd. Credir bod y math hwn o afal yn dyddio'n ol i'r 13eg ganrif pryd y tyfid gan fynachod.