Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Logo Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Sefydlwyd Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth yn 1997, gyda'r amcan o gynnig help llaw i wella'r gerddi a'r cyfleusterau. Mae'r cyfeillion yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau, megis darlithoedd, gweithdai, teithiau maes, ymweliadau â'r ardd, ffeiriau gwerthu planhigion a diwrnodau agored.

Gwirfoddolwch

Mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i gadw'r gerddi'n gymen ac yn edrych ar ôl y casgliadau o blanhigion. Dysgwch fwy am wirfoddoli yn yr Ardd Fotaneg.

Mae Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth yn elusen ac yn gwmni dielw, a sefydlwyd i gefnogi'r gwaith yn yr ardd. Mwy o wybodaeth am eu gwaith.