Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Mae tua thraean o goetir yr ardd fotaneg yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac o'r ardal honno mae ychydig dros un hectar yn cael ei ystyried yn Goetir Hynafol sy'n cynnwys coed derw aeddfed, 30 metr o uchder (Quercus petraea) a choed onn (Fraxinus excelsior) sy'n ffurfio bloc sgwâr gyda chloddiau a ffosydd amlwg canrifoedd oed. Mae'r coetir hwn yn ymddangos yn argraffiad cyntaf (1837) mapiau Arolwg Ordnans yr ardal ac ynddo ceir fflora coetirol eithaf toreithiog sy'n cynnwys tegeirian porffor cynnar (Orchis mascula), piswyd gwyllt (Euonymus europaeus), briallu (Primula vulgaris), briwydd bêr (Galium odoratum), bresych y cŵn (Mercurialis perennis), eangderau mawr o flodau’r gwynt (Anemone vulgaris), clychau’r gog (Hyacinthoides non-scripta), coedfrwyn mawr (Luzula sylvatica) a'r gwrychredyn meddal (Polystichum setiferum.) Drwy drugaredd, nid oes dim rhywogaethau mewnwthiol estron yn y coetir hwn chwaith. Yn y gorffennol mae coed cyll (Corylus avellana) wedi cael eu prysgoedio yma ond nid yw’r coetir hwn wedi cael ei reoli o gwbl ers 50 mlynedd o leiaf. Prif nodwedd rhan ogledd-orllewinol y coetir hynafol yw llwyni celyn (Ilex aquifolium). Ffin ogleddol yr ardal yw llwybr amlwg sy'n rhedeg yn gyfochrog ag Afon Menai. Er hyn ac er nad yw’r ardal wedi ei ffensio, ychydig o ôl pobl sydd a dim ond llysyddion bach naturiol sy'n pori'r tir.  O safbwynt cadwraeth, nid oes amheuaeth nad y coetir hynafol hwn yw'r nodwedd goetirol fwyaf naturiol a gwerthfawr ar safle Gardd Fotaneg Treborth.

Mae gweddill y SoDdGA yn agos i Afon Menai ar dir serth sy'n wynebu'r gogledd gan fwyaf. Mae'r rhan fwyaf o'r safle yn goetir trwchus, ac eithrio lle mae erydu naturiol a llithriad y lan sy'n wynebu'r môr wedi peri i goed aeddfed ddisgyn a chreu bylchau dros dro.  Mae'r bylchau hyn yn ddiddorol ynddynt eu hunain. Maent yn caniatáu i fflora a ffawna eraill ffynnu a hefyd yn datgelu ffosilau planhigion o'r Oes Garbonifferaidd. Mae'r coed sy'n creu'r canopi yn amrywiol, ac yn cynnwys rhywogaethau brodorol, a choed derw'n fwyaf cyffredin, ynghyd â rhywogaethau a gyflwynwyd o wledydd eraill. O'r rhain coed ffawydd (Fagus sylvatica) yw'r mwyaf niferus a derwen Twrci (Quercus cerris). Maent tua 120 oed. Ymysg rhywogaethau brodorol eraill o ddiddordeb mae'r gerddinen wen (Sorbus sp.) nifer o goed llwyfen aeddfed (Ulmus glabra) a mwy o biswyd. Ymysg y coed a blannwyd rhai o’r mwyaf nodedig yw’r bisgwydden aeddfed (Tilia x.europaea) a phinwydden yr Alban (Pinus sylvestris). Yn nesaf at lefel y llanw mae tafod y gors cigysol (Pinguicula vulgaris) yn tyfu mewn mannau llai cysgodol tra bo rhedyn yn drwch drwy'r safle, yn enwedig gwrychredyn meddal. Ceir bryoffytau niferus gan gynnwys Hookeria lucens sy'n arwydd o'r cysgod a'r lleithder a gysylltir â choedwigoedd isel yn y gorllewin. Ym mhen pellaf dwyreiniol y safle mae rhaeadr naturiol drawiadol a grëwyd gan slabyn mawr amlhaenog o dywodfaen calchaidd. Yma mae llysiau'r afu pêr (Conocephalum conicum) yn ffynnu ac yn gorchuddio'r tir, oherwydd y lleithder a'r cysgod o gwmpas y rhaeadr. Gwaetha'r modd mae'r rhododendron (Rhododendron ponticum) wedi goresgyn llawer o’r coetir hwn ar lan y Fenai ynghyd â'r goeden lawrgeirios (Prunus laurocerasus), y ddwy bellach yn 6-8 metr o uchder. Oherwydd bod clawdd y coetir mor serth byddai'n anodd iawn cael gwared ohonynt.