Mamaliaid

Mae 29 o rywogaethau o famaliaid  wedi cael eu cofnodi yn Nhreborth, fel a ganlyn:

  • Y Wiwer Goch (Sciurus vulgaris) – Darganfuwyd gwiwerod coch yn yr ardd ym mis Medi 1976, wedi croesi o Ynys Môn, ond wedyn ni chafwyd cofnod ohonynt tan 2009.  Ceir tystiolaeth eu bod wedi bridio yn yr ardd - ac yn 2013/14 llwyddwyd i dynnu lluniau hyfryd yn y coetir o wiwer fanw oedd yn llaetha. Cynhaliwyd rhai projectau gan fyfyrwyr oedd yn canolbwyntio ar diwbiau blew fel ffordd o fonitro dosbarthiad gwiwerod coch yn yr ardd a hefyd o ymchwilio i'r mathau o risgiau afiechydon y gall gwiwerod eu hwynebu gan gnofilod eraill.  Gan fod yr ardd mor agos yn ddaearyddol i Ynys Môn, mae'n hanfodol bwysig nad oes dim gwiwerod llwyd yn yr ardd, Bydd project newydd Life 14, Red Squirrels United, dan nawdd yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi tair blynedd i ni i geisio difa'r boblogaeth gwiwerod llwyd ym Mangor.
  • Y Wiwer Lwyd (S. carolinensis) - cynyddodd y boblogaeth yn gyflym rhwng 1980 a 2000, yna cymerwyd mesurau difa dwys (2006 ymlaen) a bellach mae'n brin
  • Llygoden Bengron Goch (Myodes glareolus) – yn gyffredin yn yr holl ardaloedd coetir
  • Llygoden y Gwair (Microtus agrestis) – yn gyffredin yn y glaswelltiroedd lled naturiol
  • Llygoden y Coed (Apodemus sylvaticus) - yn gyffredin yn yr holl fannau coediog ac yn y parcdir
  • Llygoden Tŷ (Mus domesticus) – Cofnodwyd nifer fach ohonynt yng nghyffiniau adeiladau
  • Llygoden Fawr (Rattus norvegicus) – yn bresennol ym mhob man, ni wyddys faint ohonynt sydd; mae'n debyg bod y nifer yn amrywio.
  • Cwningen (Oryctolagus cuniculus) – yn gyffredin ar y cyfan, ambell flwyddyn mae llawer iawn ohonynt.
  • Ysgyfarnog Frown (Lepus europaeus) - prin; nid oes cofnod diweddar ohono.
  • Draenog (Erinaceus europaeus) - rhywogaeth sy'n prinhau, ar un cyfnod roeddent yn gyffredin ond yn ddiweddar dim ond ambell waith y gwelwyd un.
  • Twrch Daear (Talpa europaea) – cyffredin; o bryd i'w gilydd cymerir camau i'w rheoli
  • Llyg Cyffredin (Sorex araneus) – yn gyffredin ym mhob rhan o'r ardd
  • Ystlum Mawr (Nyctalus noctula) – mae'n hedfan dros yr ardd yn rheolaidd
  • Yr Ystlum Lleiaf (Pipistrellus pipistrellus) – statws yn ansicr (oherwydd ei fod wedi ei gamgymryd weithiau am y rhywogaeth isod); rhai cofnodion cadarn
  • Ystlum lleiaf Soprano (P.pygmaeus) - statws yn ansicr (oherwydd ei fod wedi ei gamgymryd weithiau am y rhywogaeth flaenorol)ond mae'n debygol mai hon yw'r fwyaf cyffredin o'r ddwy rywogaeth ac mae cofnodion cadarn mynych ohoni yn yr ardd. O'r blaen bu'n treulio'r haf yn nho'r prif adeilad.
  • Ystlum hirglust (Plecotus auritus) – fe'i cofnodwyd ychydig o weithiau yn y brif ardal parcdir.
  • Llwynog (Vulpes vulpes) – llawer o gofnodion  ond nid mewn niferoedd mawr
  • Mochyn Daear (Meles meles) – statws yn ansicr – ambell adroddiad gan wahanol aelodau o'r cyhoedd ond dim cadarnhad.
  • Dyfrgi (Lutra lutra) – cofnodion cynyddol ohono ar hyd Afon Menai yn y 5-10 mlynedd diwethaf; tystiolaeth o'i bresenoldeb ar hyd y clogwyni wrth ochr Afon Menai (baw/gweddillion bwyd)
  • Carlwm (Mustela erminea) – niferoedd eithaf da; mae'r rhan fwyaf o'r cofnodion yn ymwneud ag unigolion a welwyd yn y dolydd yn yr ardal parcdir.
  • Bronwen (M. nivalis) – fel y rhywogaeth flaenorol
  • Cath goed (M.putorius) - fe'i cofnodwyd o dro i dro; mae o leiaf  5 unigolion yn byw'n gaeth  300 metr i'r de o'r ardd fotaneg fel rhan o broject ymchwil yn c. 2005 a gwelwyd rhai wedi marw ar Ffordd Treborth 2000-2010.
  • Ffured Gwyllt (M. furo) - fe'i gwelwyd ambell dro yn y 1990au.
  • Minc Americanaidd (M. vison) – fe'i gwelwyd ambell dro ar hyd Afon Menai
  • Dolffin Trwyn Potel (Tursiops truncatus) - fe'i gwelwyd ambell dro dros y 40 mlynedd diwethaf ym Mhwll Ceris ac yn Afon Menai i'r dwyrain o'r Bont Grog.
  • Llamhidydd (Phocoena phocoena) - fel yr uchod