Gloÿnnod Byw

Mae 29 o rywogaethau o loÿnnod byw wedi cael eu cofnodi yn Nhreborth, < 7% o'r rhywogaethau o wyfynnod.  Dyma nhw:

  • Y Gwibiwr Bach - fe'i cofnodwyd gyntaf yn 2003 ac ambell i flwyddyn mae i'w weld yn aml yn yr ardaloedd parcdir a glaswelltir.
  • Y Gwibiwr Mawr - yn gyffredin y rhan fwyaf o flynyddoedd yn yr ardaloedd glaswelltog ac weithiau mewn llennyrch yn y coed.
  • Y Gwibiwr Llwyd - braidd yn brin - ni chofnodir ef bob blwyddyn – yn y mannau glaswelltog.
  • Y llwydfelyn - prin - nid yw'n ymddangos yn rheolaidd ond ni chofnodwyd erioed fwy nag un neu ddau ar y tro, a sawl blwyddyn nid oes cofnod ohono.
  • Melyn y rhafnwydd - llond dwrn o gofnodion, nid yw'n debygol ei fod wedi bridio.
  • Y Gwyn Mawr - cyffredin
  • Y Gwyn Bach - eithaf cyffredin.
  • Y Gwyn Gwythïen Werdd - cyffredin
  • Y Gwyn Blaen Oren - eithaf cyffredin.
  • Y Brithribin Porffor - fe'i gwelir y rhan fwyaf o flynyddoedd ym mis Gorffennaf; yn sicr mae'n bridio a gallai'r boblogaeth yn Nhreborth fod yn eithaf mawr ond mae llawer ohonynt i'w cael yng nghanopi uchaf y coed derw felly mae'n anodd mesur.
  • Y Brithribin Wen - mae'n debyg iddo leihau o ran nifer ond credir ei fod yn dal yn bresennol ar y llwyfenni sy'n weddill - bydd angen mynd ati o ddifrif i'w cyfrif ym mis Gorffennaf.
  • Y Copor Bach - yn eithaf cyffredin mewn mannau glaswelltog
  • Y Glesyn Cyffredin - yn gyffredin mewn mannau glaswelltog
  • Y Glesyn Celyn - yn eithaf cyffredin ar hyd ymyl y coetir ac yn y parcdir
  • Y Fantell Goch - yn gyffredin y rhan fwyaf o flynyddoedd
  • Y Fantell Dramor - y nifer yn amrywio'n fawr yn ôl faint sy'n dod i'r wlad
  • Y Trilliw Bach - cafwyd lleihad yn ei nifer mewn blynyddoedd diweddar ond mae'n dal i fod yn eithaf cyffredin.
  • Mantell y Paun – yn gyffredin
  • Y Fantell Garpiog - mae'r nifer wedi cynyddu dros y 40 mlynedd diwethaf ac erbyn hyn mae'n eithaf cyffredin.
  • Y Fritheg Berlog - ei niferoedd wedi lleihau yn y 40 mlynedd diwethaf a bellach mae'n brin iawn
  • Y Fritheg Werdd - prin iawn ac nid oes cofnod diweddar ohono.
  • Y Fritheg Arian - dim ond un cofnod, tua 12 mlynedd yn ôl.
  • Y Gweirloyn Brych - cyffredin; yn bridio deirgwaith y flwyddyn.
  • Iâr fach y Fagwyr - prin - fe'i gwelir yn bennaf ar gloddiau glaswelltog ger Afon Menai.
  • Y Gweirloyn Llwyd - prin iawn - dim cofnod diweddar.
  • Gweirloyn y Perthi - yn gyffredin yn y glaswelltir.
  • Gweirloyn y Ddôl - yn gyffredin yn y glaswelltir.
  • Gweirloyn Bach y Waun - bellach yn eithaf prin yn y glaswelltir.
  • Gweirloyn y Glaw - yn gyffredin yn y glaswelltir.