Yr Ardd

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn 18 hectar ar lannau'r Fenai ac mae wedi bod ym meddiant Prifysgol Bangor er 1960.

Mae'r ardd yn cynnwys:

  • 15ha o goetir brodorol,
  • 2ha o laswelltir heb ei drin sy'n cynnwys llawer o rywogaethau a
  • 1ha o berllan dan reolaeth a llawer o goed a llwyni llawn dwf. 

Ceir hefyd chwe thŷ gwydr o wahanol dymheredd yn cynnwys casgliadau arbennig, megis tegeirianau, cacti, planhigion suddlon a phlanhigion cigysol.  

Gall y cyhoedd fynd i'r ardd awyr agored am ddim unrhyw bryd ac mae'r tai gwydr yn agored ar adegau penodol pan fo staff neu wirfoddolwyr yn bresennol.