Tŷ Gwydr Trofannol

Gyda'i dymheredd yn amrywio o 18-35 gradd, mae'r Tŷ Gwydr Trofannol yn ail-greu'r amodau cynnes a llaith 'coedwig law' a geir gydol y flwyddyn yn rhanbarthau trofannol y Ddaear ar gyfer planhigion sy'n dod o Dde a Chanolbarth America, Affrica, Asia a rhannau gogleddol Awstralia. 

Mae'r tŷ gwydr trofannol yn galluogi myfyrwyr, staff a'r cyhoedd i ddysgu am amrywiaeth enfawr bywyd planhigion yn y trofannau.
O ganlyniad i'r gystadleuaeth eithriadol am adnoddau, yn arbennig goleuni, ceir strwythur llystyfiant unigryw yn y coedwigoedd glaw: canopi uchel trwchus a llawr y goedwig yn dywyll.   Mae hyn yn galluogi i blanhigion dringo sy'n hoffi'r haul, megis Esgorllys Bychan (Aristolochia gigantea) ac Esgorllys Caled (Aristolochia ringens) roi cysgod i lawer o fromeliadau epiffytig, tegeirianau, rhedyn, planhigion cigysol a bythwyrddolion ymledol sydd hefyd yn cael eu tyfu'n boblogaidd fel planhigion tŷ, megis Fittonia a Tradescantia.

Mae'r tŷ gwydr hefyd yn cynnwys enghreifftiau gwych o rywogaethau Ffigys trofannol, yn cynnwys Ficus aurea, F.pumila  a  F.religioisa . Mae Ffigys yn rhywogaeth drofannol o goed, llwyni a gwinwydd. Fe'u nodweddir gan eu ffrwyth blasus sydd â dull peillio arbennig, lle defnyddir gwenyn meirch i beillio.  Mae gan lawer o Ffigys hefyd ddull 'tagu' cyffredin o dyfu, lle mae gwreiddiau eginblanhigion yn tyfu i lawr i lawr y goedwig gan dynnu maetholion o'r pridd. Yn raddol mae'r gwreiddiau'n lapio eu hunain o amgylch y goeden gynnal, yn ymledu ac yn ffurfio rhwyllwaith sy'n amgylchynu boncyff y goeden gynnal a'i lladd yn y pen draw.  Mae hyn yn aml yn golygu bod y goeden Ffigys yn 'goeden golofnog' drawiadol gyda chanol gwag iddi.

Yn y Tŷ Gwydr Trofannol ceir enghreifftiau hefyd o lawer o gnydau economaidd, yn cynnwys y fanana Cavendish enwog, cansen siwgr, pupur du, papaia, coffi, mahogani a ffefryn pawb, coco.

Cedwir y tŷ gwydr yn llaith gyda chwistrellwyr tarth awtomatig a dyfrhau â llaw.  Ar ddyddiau poeth gall y tymheredd gyrraedd hyd at 40 gradd ac mae'r aer yn mynd yn hollol ddirlawn â dŵr.