Lleiniau Gweirglodd

Ers y pumdegau nid yw'r chwe acer o gae agored yn Nhreborth wedi cael unrhyw wrtaith artiffisial, chwynladdwyr na'i aredig, a dechreuodd hynny draddodiad pwysig sydd wedi parhau hyd heddiw o gynnal a chadw llawer o'r cae agored yn Nhreborth fel lleiniau gweirglodd. Caiff y rhain eu torri ddim ond unwaith neu ddwywaith y flwyddyn gan roi arddangosfa ddeniadol o flodau gwyllt sy'n denu pryfetach a chreaduriaid eraill.  Mae'r lleiniau hyn yn cynnwys dros 150 rhywogaeth o blanhigion brodorol, yn ogystal â channoedd mwy o fathau o ffyngau ac infertebrata ac fel y cyfryw mae'n un o'r rhannau mwyaf amrywiol o'r ardd fotaneg.

Mae'r canolbwyntio hwn ar weirgloddiau'n adlewyrchu'r pryder cynyddol a welir o ran diogelu glaswelltiroedd naturiol ar hyd a lled Cymru, ac yn wir drwy Brydain.  Rhoddwyd sylw eang i leihad gweirgloddiau gwair traddodiadol ac yma yng Nghymru mae hyn wedi arwain at golledion sylweddol o ran amrywiaeth mewn planhigion, ffyngau, adar a phryfetach.

Mae un o'r rhywogaethau harddaf o blanhigion gweirglodd, Saets y Waun (Salvia pratensis), yn awr wedi darfod yn swyddogol fel planhigyn gwyllt yng Nghymru, gan farw yn ei safle olaf yn Sir Fynwy eleni. Trwy Trevor Dines, Swyddog Bywyd Planhigion yng Nghymru, cafodd Treborth hadau ychydig flynyddoedd yn ôl o'r safle yn ne-ddwyrain Cymru ac mae'r planhigyn a dyfwyd o'r rheini, sy'n blodeuo'n weddol gryf yn yr ardd gerrig, yn un o'r sbesimenau mwyaf gwerthfawr sydd gennym yn ein casgliad cadwraeth.  Fe wnaethom hefyd dyfu 24 o eginblanhigion a gludwyd i lawr i'w safle gwreiddiol yn Sir Fynwy yn 2015 fel rhan o broject diogelu'r Salvia pratensis gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sw Bryste ac Adnoddau Naturiol Cymru.