Tŷ Gwydr Claear a Thŷ India-corn

Tŷ Gwydr Claear

Yn wreiddiol roedd hwn yn dŷ gwydr i gacti a phlanhigion suddlon ond mae'r Tŷ Gwydr Claear bellach wedi'i adnewyddu ac yn gartref i noeth-hadogion mawr mewn potiau, rhedyn a rhywogaethau egsotig eraill. Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer gweithdai, gwerthu planhigion, darlithoedd a chyfarfodydd.

I archebu'r Tŷ Gwydr Claear cliciwch yma.  

Tŷ India-corn

Cafodd y Tŷ India-corn ei enw oherwydd yn hanesyddol fe'i defnyddid fel tŷ gwydr ymchwil i dyfu cyltifarau india-corn gan fyfyrwyr a staff Coleg y Gwyddorau Naturiol.  Fe'i defnyddir yn awr fel ein tŷ lluosogi, lle rydym yn tyfu planhigion o hadau, toriadau, rhannu, haenu ac impio.  Trwy luosogi planhigion rydym yn gallu cynyddu ein casgliadau presennol, diogelu sbesimenau gardd a chadwraeth ac mae hefyd yn ffordd wych o arbed arian.

Mae'r gwirfoddolwyr yn Nhreborth yn rhoi cymorth mawr gyda lluosogi llawer o'n planhigion ar gyfer projectau newydd, i gymryd lle sbesimenau sydd wedi marw, a hefyd ar gyfer gwelyau a photiau tymhorol o amgylch yr ardd.