Tŷ Tegeirianau 

Mae'r casgliad tegeirianau byw yn Ngardd Fotaneg Treborth wedi cael ei helaethu a'i gyflwyno er cof am Yr Athro Peter Greig-Smith (1922 - 2003).  Roedd yr Athro'n aelod o staff yr Ysgol o 1952 tan 1982 ac yn arbenigo mewn ecoleg planhigion, maes yr oedd yn awdurdod byd-enwog ynddo.  Roedd yn arbenigwr hefyd ar fonocotyledonau, gyda diddordeb personol neilltuol yn yr Orchidaceae.
Gwerthfawrogir y casgliad yn gynyddol gan y myfyrwyr, Cyfeillion Treborth a'r cyhoedd yn gyffredinol.  Mae'n ffynhonnell deunyddiau dysgu pwysig gydol y flwyddyn i'r brifysgol, ac i lawer o sefydliadau allanol megis dosbarthiadau celf . Mae gwyddonwyr, botanegwyr a sŵolegwyr yn dod ynghyd i ddarganfod mwy am y teulu mwyaf o blanhigion blodeuol, gan fod gan y rhan fwyaf o rywogaethau berthynas gymhleth a hynod ddiddorol gyda'u peillwyr.  Mae pwysigrwydd eu gwaith yn cynnal bioamrywiaeth mewn llawer o ecosystemau yn amlwg iawn.

Tegeirianau'n aml sy'n rhoi cychwyn i ddiddordeb pobl ifanc gan eu hysgogi i ganfod mwy am yr amgylcheddau y maent yn dod ohonynt.  Daw'r holl rywogaethau trofannol o ardaloedd sensitif yn amgylcheddol ac erbyn hyn mae llawer ond i'w cael wedi'u tyfu'n fasnachol!  Yn economaidd, mae rhywogaethau a hybridau tegeirian yn ddiwydiant gwerth biliynau o ddoleri ac fe'u tyfir er mwyn pleser, bwyd a meddygaeth.

Meini prawf Cyfansoddiad y Casgliad

  • Sbectrwm eang o rywogaethau cynrychioliadol o'r holl Lwythau, Is-lwythau etc. gan ddangos amrywiaeth enfawr o forffoleg a chynefin.  Mae hyn yn rhoi ffynhonnell ddi-ben-draw o ddeunydd ar gyfer dysgu systemateg, anatomeg, bioamrywiaeth, cadwraeth ac ecoleg.
  • Rhywogaethau sydd o ddiddordeb botanegol ac sy'n ysblennydd i'w gweld.
  • Blodau ar gyfer persawr - ystyrir hyn yn bwysig iawn gan mai hwn yw'r teulu o blanhigion sydd â'r ystod ehangaf o bersawrau a pherarogleuon.  Mae'r math o bersawr a gynhyrchir, a'r adeg o'r dydd y caiff ei ryddhau, yn ddangosyddion defnyddiol ar gyfer y math o bryfetach sy'n peillio'r planhigion.
  • Rhywogaethau cynrychioliadol o bob rhan o'r byd, gan ddangos amrywiaeth daearyddol.  Ceir rhai o Indo-Tsiena a Taiwan, Japan, Awstralia, Madagascar, Indonesia, Canolbarth, De a Gogledd America, Ewrop ac Ynysoedd Prydain a thir mawr Affrica.
  • Rhywogaethau a hybridau o ddiddordeb hanesyddol, megis tegeirian Darwin o Fadagascar, Angraecum sesquipedale..
  • Defnyddir hybridau fel Cymbidium  a  Phalaenopsis, i'w harddangos ac i ddibenion dysgu. Mae'r blodau mawr sy'n para'n hir yn ddelfrydol ar gyfer dosbarthiadau anatomeg blodau, ac arddangosiadau o'r dull peillio unigryw.