Coetir

Mae'r coetiroedd yng Ngardd Fotaneg Treborth yn gorchuddio oddeutu 16 hectar sy'n codi o Farc Penllanw i uchder o 40 metr.  Mae'r safle'n nodedig am hyd y traethlin (1.5k) sydd â chanopi coedwig tal yn mynd at y dŵr. Dyma nodwedd tirlun anghyffredin yng Nghymru.

Yng nghoedlannau Treborth ceir o leiaf wyth o gymunedau arbennig o blanhigion. Mae'r rhain yn cynnwys coedlan hynafol o ynn a deri sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, rhan o goedlan ynn ar ben brigiad calchfaen, planhigfa o gonifferau cymysg o'r 1950au, coedlan gymysg deri-ynn-masarn, bedw-helyg calchaidd a chanopi uchel o dderi aeddfed gyda bedw, ynn a helyg, yn ogystal â llecyn lle'r aildyfir bedw, yn cynnwys yw a cherddin gwynion.  Ceir hefyd lecynnau o goed cyll a rhodfa o goed leim aeddfed sy'n mynd drwy ganol y goedlan. Mae'r rhain yn mynd yn ôl i weithgareddau Syr Joseph Paxton, cynllunydd tirlun blaenllaw o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym mhob un o'r rhannau hyn o'r goedlan ceir is-dyfiant unigryw sydd wedi cael ei reoli i gael trefn ar rywogaethau ymledol, yn cynnwys rhododendron a llawr-geirios.