Border Glöynnod Byw

Adfer y Border Glöynnod Byw

Yn 2009 fe wnaeth Ann Wood o'r FTBG greu border glöynnod byw yn Nhreborth i ddenu glöynnod byw a phryfetach llesol eraill ac i ddangos bod ystod eang o blanhigion gardd yn addas i'r diben hwn.  Mae'r border yng nghornel ogledd ddwyreiniol yr Ardd, mewn llecyn cynnes a chysgodol yn agos i'r pwll bywyd gwyllt.  Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae rhai o'r planhigion wedi mynd yn rhy lwyddiannus braidd gan arwain at golli rhai o'r rhai a oedd wedi'u cynnwys yn y cynllun gwreiddiol.  Felly, cynlluniwyd gwaith adfer a manteisiwyd ar y cyfle i ymestyn y border i ad-drefnu'r darn cyfagos a'i gwneud yn haws i dorri'r gwair o'i gwmpas.  Yn aml pwysleisir defnyddio planhigion brodorol i ddenu bywyd gwyllt, ond mae llawer o blanhigion gardd hefyd yn ddeniadol i löynnod byw a phryfetach eraill, yn cynnwys rhai sy'n beillwyr pwysig.  Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Royal Horticultural Society (RHS) ganlyniadau astudiaeth wyddonol bwysig a wnaed ganddi sy'n dangos bod planhigion gardd yn llwyddiannus o ran denu peillwyr.  Cyngor yr RHS yw gwneud y canlynol:

  • Plannwch gymysgedd o blanhigion blodeuol o wahanol wledydd a rhanbarthau;
  • Rhowch bwyslais ar blanhigion sy'n frodorol i wledydd Prydain a hemisffer y gogledd;
  • Po fwyaf o flodau y gall gardd eu cynnig gydol y flwyddyn - beth bynnag fo tarddiad y planhigion (brodorol neu anfrodorol) - mwyaf yn y byd o wenyn, pryfed hofran a phryfetach peillio eraill y bydd yn eu denu a'u cynnal. 

Mae llawer o labelau ar blanhigion mewn canolfannau garddio neu wybodaeth mewn catalogau hadau yn nodi'r rhai sy'n ddeniadol i löynnod byw a gwenyn a phryfetach peillio eraill.  Mae'r RHS yn hyrwyddo'r logo 'RHS Perfect for Pollinators'.

Mae'r border a adnewyddwyd yn lletach yn ei ben uchaf gyda llwybr o lechi mân yn mynd ar hyd y cefn i'w gwneud yn haws ei gynnal a'i gadw.   Mae yna eisoes rai llwyni sy'n ddeniadol i löynnod byw, megis Buddleja, ar hyd ymyl y coetir cyfagos ac atgyfnerthir hyn gyda mwy o fathau o lwyni addas.  Mae'r cynllun newydd yn cynnwys lle bychan gyda sedd i alluogi ymwelwyr i fwynhau'r border a'r glöynnod byw.

Lluniwyd rhestr ddiwygiedig o blanhigion, wedi'i seilio ar restr wreiddiol Ann, ond gydag ychwanegiadau i ymestyn y tymor blodeuo a manteisio ar y lle ychwanegol sydd ar gael.  Pan fydd y plannu wedi'i orffen fe ddylai bod yna blanhigion yn eu blodau yn y border a'r ardal gyfagos o ddechrau'r gwanwyn i ddiwedd yr hydref, yn ogystal â Mahonia i roi blodau gaeaf i gacwn a phryfetach eraill sy'n codi o'u gaeafgwsg ar ddyddiau cynnes.  Mae rhai o'r planhigion, yn arbennig y rhai blynyddol, yn cael eu tyfu o hadau yn yr Ardd tra bydd rhai parhaol a llwyni yn cael eu prynu.

Mae Staff a Chyfeillion yr ardd yn hynod ddiolchgar i Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Treborth a lwyddodd yn eu cais am gyllid gan Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor ac sydd wedi rhoi'r cyllid hwn at y gwaith ar y border glöynnod byw.  Mae partïon gwaith y myfyrwyr hefyd yn rhoi cymorth ymarferol gyda'r holl waith caled sy'n gysylltiedig â'r adnewyddu.  Dewch draw i weld y border a gweld sut mae'n datblygu, ac i fwynhau'r glöynnod byw a'r pryfetach eraill y mae'n eu denu.