Mwy ar gyfer y Gerddi Botaneg

Map (pdf)

Amdanom ni

Cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw hyrwyddo cadwraeth planhigion a'r byd naturiol, eu defnyddio'n gynaliadwy a'u mwynhau drwy addysg, ymchwil, hyfforddiant ac ymwneud â'r gymuned.

Hanes yr Ardd

Roedd safle 90 acer yr Ardd yn rhan o ystâd Treborth Isaf tan 1846 pan gafodd ei brynu am £18,000 gan y Chester and Holyhead Railway. Prif beiriannydd y cwmni hwnnw oedd Robert Stevenson, mab i George Stevenson.  Roedd ar y rheilffordd angen cymaint o dir gan ei bod angen lle i roi rwbel o'r twnnel yng ngorsaf Bangor ac roedd yn rhaid i lwybr y rheilffordd ddod at Bont Britannia ar ongl sgwâr i lan y Fenai ac felly roedd yn rhaid iddo symud draw oddi wrth y lan ar dro graddol.

Ar ôl i'r bont gael ei gorffen, roedd gan y cwmni o leiaf 80 acer o dir dros ben.  Roedd Joseph Paxton, a gynlluniodd Barc Penbedw (Birkenhead Park), yn gysylltiedig â'r cwmni ac efallai mai ef a awgrymodd iddynt greu canolfan wyliau, tebyg i sba cyfandirol.  Cynhyrchodd gynllun, wedi'i seilio ar Barc Penbedw, a oedd yn cynnwys tiroedd pleser (mannau ar gyfer cerdded, planhigion a hamdden), tai ac, yn fwyaf nodedig, gwesty gyda 500 o ystafelloedd gwely.  Pensaer y gwesty oedd Charles Reed, a oedd wedi cynllunio Plas Rhianfa ar lannau'r Fenai.  Penderfynodd y cwmni ddefnyddio cynllun Paxton gan alw'r datblygiad yn Parc Britannia. Dechreuodd y gwaith ym Mawrth 1851 ond, gan fod y cwmni mewn trafferthion ariannol, daeth y gwaith i ben ym Medi 1851.  Gwnaed peth gwaith ar y gwesty, gyda'r adain ddwyreiniol ar safle'r pwll trochi newydd, ond nid oes unrhyw olion ohoni.  Yr unig adeiladwaith o bwys y gellir ei weld yn awr yw'r twnnel draenio sy'n bwydo'r rhaeadr.

Yn 1858 adeiladodd y cwmni rheilffordd Orsaf Porthaethwy ar y safle uwchben yr ystâd ddiwydiannol bresennol wrth y fynedfa i'r Ardd ar ôl cael hawl mynediad dros Dir y Goron ym mhen deheuol y bont grog (Pont y Borth).

Adeg y Pasg 1865 bu cais i gynnal rasys ceffylau a gemau wrth ymyl 'the Britannia Park Refreshment Rooms', a oedd mae'n debyg yn agos at y bont rheilffordd, ond gwrthododd y cwmni roi caniatâd i hynny.  Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y fan honno wedi'i thynghedu i'w defnyddio ar gyfer gemau!

Yn 1867 prynwyd Treborth Isaf gan Richard Davies AS a phrynodd Barc Britannia'n ddiweddarach; adeiladodd bont dros y rheilffordd a'r porthdy wrth y fynedfa i'r Ardd.  Roedd ardal y Parc unwaith eto'n rhan o'r ystâd ar ôl dim ond ychydig dros 20 mlynedd.

Yn y 1890au adeiladwyd y tŷ a elwir Ceris gan Richard Davies i'w fab, John Robert Davies.  Adeiladwyd y tŷ yn agos at y bont grog a'r Fenai.  Caeodd y perchenogion y llwybr troed 16 sy'n mynd gyda glan y Fenai gan rwystro pysgotwyr Ynys Gorad Goch rhag medru mynd i'r orsaf rheilffordd  drwy ddefnyddio Grisiau'r Peilot sydd fymryn i'r gorllewin o ddiwedd y llwybr troed wedi'i balmantu.   Roedd yn rhaid i'r pysgotwyr wedyn fynd drwy goed Coed Môr, ar lan ogleddol y Fenai, i fynd i'r orsaf.  Er mwyn sicrhau preifatrwydd, prynodd J R Davies yr ynys yn 1915.  Ar un adeg bu Ynys Gorad Goch yn enwog am ei  phrydau te pysgod.  Yn ystod y ddau ryfel byd mae'n debyg bod rhannau o'r Parc wedi cael eu haredig ac mae olion ffosydd milwrol posibl yn y goedlan.

Yn 1953 pan oedd y llong hyfforddi, 'Conway', yn cael ei symud i lawr y Fenai i'w hadnewyddu yn Lerpwl aeth ar y creigiau i'r ddwyrain o'r rhaeadr wrth y ddau dwmpath a oedd yn rhan o waith Paxton mae'n debyg.  Mae darnau o'r llong i'w gweld yno o hyd.  Ar ôl i'r llong gael ei symud bu cynllun i ddefnyddio'r rhan hon o'r safle i adeiladu ail gartrefi pren ond fe'i prynwyd gan ddau o bobl leol er mwyn achub y blaen ar y cynllun hwn.  Roeddem yn ffodus na wireddwyd cynllun y cwmni rheilffordd.  Byddai elfen 'Y Parc' o'r cynllun wedi bod yn gyfyngedig iawn, iawn ac mae'n debyg y byddai wedi cael ei dinistrio gan ymgais perchenogion diweddarach i wneud i'r lle dalu, ac ni allai'r gwesty fyth fod wedi bod yn llwyddiant oherwydd erbyn hynny roedd y ddau westy'r goets fawr cyfagos (Penrhyn Arms 130 ystafell wely) a The George) yn tynnu at ddiwedd eu hoes.   Fel mae pethau wedi troi allan mae gennym safle da i ardd fotaneg, twnnel draenio hyfryd, rhai llwybrau sych o ystyried eu bod yn 150 oed, y bri o fod yn gysylltiedig â Stevenson a Paxton a choetir hynafol na chafodd ei dorri i wneud lle i dai.

Diolchiadau

Diolch i Brian Hyde a lunio hwn fel erthygl cylchlythr i Gyfeillion Treborth – gyda chymorth gan Yr Athro M.L. Clarke, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 19 1958.’ tt 54- 60. a David Senegles ‘Story of Ynys Gorad Goch in the Menai Straits’, cyhoeddwyd yn breifat, Mawrth 1969.