Llwybr Arfordirol Cymru

Llwybr Afrordir CymruYn Hydref 2012 gwnaeth Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes, agor rhan ddiweddaraf Llwybr Arfordirol Cymru yng Ngardd Fotaneg Treborth y Brifysgol. Mae’r llwybr newydd yn rhedeg ar dir uchel wrth ochr y Fenai drwy goetir cymysg hardd yr Ardd.

Mae’n dilyn llwybr trol hanesyddol a oedd yn cludo ymwelwyr yn wreiddiol o’r Bont Grog at y fferi hanner ffordd rhwng y ddwy bont enwog. O’r fan honno byddai dyn cychod yn rhwyfo teithwyr i Ynys Gored Goch i fwynhau te silod mân.

Mae Llwybr yr Arfordir ar agor i bawb, ac mae wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru, gyda chymorth Cyllid Ewropeaidd, a’i weinyddu drwy Dîm Mynediad Arfordirol Cyngor Sir Gwynedd.

Mae’r llwybr newydd yn cynnwys rhan sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt y coetir i'w gweld ar hyd y ffordd.

Gofynnir i ddefnyddwyr barchu tawelwch a llonyddwch y safle, sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Mae llawer iawn o fywyd gwyllt a gwelwyd y wiwer goch yno’n ddiweddar hefyd – ac oherwydd hynny, dylid cadw pob ci ar dennyn drwy’r Ardd Fotaneg a’r coetir. Er mwyn i gerddwyr fod yn ddiogel a mwynhau mynd am dro, ni chaniateir seiclo.