Tŷ Planhigion Cigysol

Ceir planhigion cigysol mewn llawer o gynefinoedd a hinsoddau gwahanol. Maent yn tyfu dan amodau lle mae maetholion yn brin, lle gallant ychwanegu at eu mewnlifiad maetholion gydag ychydig gystadleuaeth oddi wrth blanhigion eraill.  Mae'r planhigion hyn wedi datblygu nifer o ddulliau o ddal a threulio eu hysglyfaeth.  Maent yn cynhyrchu mwcws neu fathau o glud sy'n gweithredu fel papur dal pryfed, tiwbiau neu botiau llithrig sy'n stopio pryfetach chwilfrydig rhag dianc. Mae gan rai, megis gwybedfagl Fenws, ddail sy'n cau'n glep gan ddal unhyw bryfetach sy'n cerdded ar eu hyd ar y pryd.

Mae'r prae y mae'r planhigion hyn yn gwledda arno hefyd yn bur amrywiol.  Ar un pen i'r raddfa mae'r chwysigenddail ( Utricularia ) yn dal nematodau ac infertebrata dŵr bychain, tra na all tafod y gors ( Pinguicula ) ddal fawr fwy na phryfed ffrwythau a phaill. Gall piserlys, megis Sarracenia a Darlingtonia ymdopi ag ysglyfaeth tipyn mwy, megis pryfed a gwenyn meirch, tra gall piserlys trofannol, y Nepenthes, dyfu'n anferth a chafwyd hyd i weddillion adar, madfallod a llygod wedi'u dal ynddynt.

Yn Nhreborth rydym yn tyfu dros 100 rhywogaeth a chyltifarau o'r planhigion rhyfedd hyn.  Mae sbesimenau trofannol i'w cael yn y tai Tegeirian a Throfannol gyda phlanhigion o rannau mwy tymherus o'r byd, a hyd yn oed o Ynysoedd Prydain, yn cael eu tyfu yn y Tŷ Planhigion Cigysol.

Ein sefyllfa bresennol ...

Mae llawer o blanhigion cigysol yn tyfu mewn hinsoddau tymherus ac yn cael cyfnod o gysgadrwydd yn y gaeaf, gan ddisgwyl tan y gwanwyn i gynhyrchu blodau i ddenu peillwyr a thrapiau i ddenu bwyd!   Erbyn hyn mae piserlys Gogledd America (Sarracenia a Darlingtonia) wedi cynhyrchu cnwd o diwbiau tal, cul i ddal pryfed busneslyd, mae'r gwlith yr haul (Drosera) a'r tafod y gors (Pinguicula) wedi'u gorchuddio â glud dal pryfed ac mae gwybedfagl Fenws yn barod i gau'n glep ar beth bynnag fydd yn glanio arnynt.

Eleni rydym yn brysur hefyd yn adeiladu arddangosiadau newydd yn y Tŷ Planhigion Cigysol a hefyd ar gyfer ein rhywogaethau trofannol a byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ddiweddaraf am eu cynnydd.