Pryfed Cannwyll

Mae dros 400 o rywogaethau o wyfynod mawr a 100 o rywogaethau o wyfynod bach wedi cael eu cofnodi yn Nhreborth lle mae Magl Golau Robinson ar waith bob nos ers 1989. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae dros draean o filiwn o wyfynod unigol wedi cael eu dal gan wneud yr ymdrech gofnodi yn un o'r rhai mwyaf cynhwysfawr yn y DU. Bellach mae'r data wedi cael eu digideiddio gan Pat Denne.

Mae rhai rhywogaethau yn niferus iawn megis yr Isadain Felen Fawr a'r Dart Calon a Saeth (hyd at 500 bob nos ym mis Gorffennaf/Awst!) tra bo'r mwyafrif yn cael eu dal mewn niferoedd llawer llai ac nid bob blwyddyn o anghenraid. Mae rhai rhywogaethau wedi cynyddu'n drawiadol ers y naw degau e.e. rhai sy'n bwydo ar gennau megis y Troedwas Llwydfelyn a'r Troedwas Llwydaidd. Gwelwyd Gwargwlwm y Cypreswydd am y tro cyntaf yn 1996 ac mae ei niferoedd wedi cynyddu bob blwyddyn ers hynny. Mae hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa ledled y wlad er bod Treborth rai blynyddoedd ar ôl safleoedd sy'n bellach i'r de.  Yn yr un modd cafodd ymddangosiad cyntaf Gwalchwyfyn y Pisgwydd yn 2001 groeso mawr a bellach mae wedi ymsefydlu er bod ei niferoedd yn fach. Bellach mae'r Siobyn Bwaog i'w weld yn rheolaidd

ddiwedd yr haf a'r hydref, ond nid oes cofnod ohono tan flynyddoedd cyntaf y ganrif hon. Mae Carpiog Awst a Brychan Hardd y Calch ill dau i'w gweld yn llawer amlach ers y 1980au a'r 1990au, ac yn achos yr olaf gall hyn fod oherwydd bod Barf yr Hen Ŵr, (Clematis vitalba)  y planhigyn sy'n brif ffynhonnell bwyd iddo, wedi ymledu. Mae'r planhigyn hwn wedi ymledu hyd rhodfa'r ardd fotaneg ac ar hyd y rheilffordd.

Ar y llaw arall, gwaetha’r modd, mae nifer o rywogaethau wedi lleihau'n ddybryd neu hyd yn oed wedi diflannu'n gyfan gwbl. Efallai mai Teigr yr Ardd yw'r mwyaf adnabyddus yn y categori anffodus hwn, gan adlewyrchu dirywiad ar draws Prydain.  Mae niferoedd y Gwyfyn Brith (Golau) wedi lleihau nes ei fod bron wedi mynd i ddifodiant yn llwyr.

Ar y cyfan mae Treborth yn gyfoethog mewn rhywogaethau coetir a glaswelltir gan gynnwys rhai tacsonau sy'n brin ar draws y wlad fel Rhisglyn y Cen a Chrych Blomer. Ymysg rhai sydd wedi ymddangos yn ddiweddar y mae'r Pwtyn Onglog yn 2016.