Adar

Mae 125 o rywogaethau o adar wedi cael eu cofnodi yn Nhreborth, sydd mewn man ardderchog ar hyd llwybr ymfudo (Afon Menai) ac yn cynnwys amrywiaeth o goetir, parcdir a glaswelltir.

Adar Preswyl

Mae 43 o rywogaethau'n preswylio ac yn bridio ar y safle, gan gynnwys:

  • Y Crëyr glas,
  • Y Crëyr Bach,
  • Hwyaden yr Eithin,
  • Y Gwalch Glas,
  • Y Boncath,
  • Y Dylluan Frech,
  • Y Gigfran,
  • Y Gnocell fraith fwyaf,
  • Y Dringwr Bach,
  • 5 rhywogaeth o bincod,
  • 4 rhywogaeth o ditw,
  • a 3 rhywogaeth o fronfraith.

Mae'r ffaith bod cymaint o amrywiaeth o adar i'w gweld yn yr ardd yn rhoi digon o gyfle i fyfyrwyr i gymharu ac ymchwilio i sawl agwedd ar ymddygiad adar yn enwedig technegau hela.

Ymfudwyr rheolaidd

Ymysg yr ymfudwyr rheolaidd sy'n bridio yn Nhreborth y mae:

  • y telor penddu,
  • y llwydfron,
  • a'r siff-siaff.

Ar y Fenai

Mae tair rhywogaeth o fôr-wennol yn defnyddio Afon Menai yn yr haf ac mae'r Fôr-Wennol Gyffredin a Môr-wennol y Gogledd yn bridio ar rai o'r ynysoedd yn yr afon.
Yn y gaeaf mae niferoedd ac amrywiaeth da o adar hirgoes ac adar dŵr yn ymgasglu ar hyd y draethlin ac yn nyfroedd agored Pwll Ceris gan gynnwys:

  • Y Bioden Fôr,
  • Y Gylfinir,
  • Y Ganwraidd Goesgoch,
  • Pibydd y Mawn,
  • Y Gorhwyaden,
  • Yr Hwyaden Wyllt,
  • Y Chiwell,
  • Hwyaden yr Eithin,
  • Yr Hwyaden Frongoch,
  • Yr Ŵydd Wyllt, a Gŵydd Canada.

Mae'r rhain yn eu tro yn denu'r Hebog Tramor sy'n bridio ar Bont Britannia ambell flwyddyn.
Yn y gaeaf, gwelir nifer fawr o goch dan adain yn yr ardd, ynghyd â'r Aderyn Du a'r Fronfraith o ddwyrain Ewrop a Ffeno-Sgandinafia.

Ymwelwyr Achlysurol

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Hebog yr Ehedydd,
  • Gwalch y Pysgod,
  • Gwalch Marthin
  • Y Gnocell Fraith Leiaf,
  • Y Gnocell Werdd,
  • Pinc y Mynydd,
  • Y Gynffon Sidan,
  • a'r Trochydd Mawr.