Yr Ardd Tsieineaidd

Project Gardd y Ddwy Ddraig

Two Dragons Garden Logo

Mae Project Gardd y Ddwy Ddraig yn gydweithrediad rhwng Gardd Fotaneg Treborth, Gerddi Botaneg Trofannol Xishuangbanna yn Yunnan, a'r Gerddi Botaneg Brenhinol yng Nghaeredin, gyda chyllid parhaus gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor a'r Cyngor Prydeinig.

Mae'r fenter yn cyfeirio at symbolau cenedlaethol Cymru a Tsieina. Nod y project yw datblygu rhaglenni hyfforddiant arloesol i fyfyrwyr sy'n graddio ennill profiad gwaith mewn gerddi botaneg yng Nghymru a Tsieina, a'u helpu hwy ac eraill i gael gwaith buddiol a datblygiad gyrfa ym meysydd garddwriaeth ac addysg amgylcheddol.

Mae'r project wedi adeiladu perthynas rhwng darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a'r gerddi botaneg sy'n cynnal y cynllun, ac mae wedi creu cwricwla newydd ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol mewn addysg garddwriaeth a gerddi botaneg. Mae'r hyfforddeion wedi treulio cyfnodau amrywiol yn y naill neu'r llall o'r gerddi botaneg sy'n bartneriaid ac maent wedi datblygu arbenigedd y maent wedi eu defnyddio wedyn yn eu gweithleoedd.

Elfen arall o'r project hwn yw datblygu Gardd Feddyginiaethol Tsieineaidd yng Ngerddi Botaneg Treborth, gyda'r bwriad o ddangos agweddau ar blanhigion cynhenid Tsieina a'r athroniaeth hynafol o ddefnyddio planhigion mewn meddyginiaeth draddodiadol Tsieina dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf ac sy'n parhau'n bwysig hyd y dydd heddiw. Mae'r ardd hefyd yn caniatáu i ni wneud ymchwil wyddonol i seiliau biocemegol priodweddau meddyginiaethol y planhigion.

Dechreuodd y safle ar gyfer yr Ardd Tsieiniaidd fel y border  Trocodendron (coeden olwyn) gwreiddiol gyferbyn â'r prif labordy a'r tai gwydr. Roedd yn lleoliad priodol oherwydd bod y gwely yn cynnwys sbesimenau aeddfed ysblennydd o'r goeden afalau surion (Malus hupehensis) a choesynnau niferus pensaernïol yr Aralia undulata.

Dechreuodd y gwaith yn 2013 trwy gael gwared â phrysgwydd a sbesimenau o'r gwely presennol a marcio dyluniad newydd y gwely a chynlluniau ar gyfer tirweddu caled. Gyda chymorth contractwyr lleol, tirluniwyd y safle i dri darn crwm, un llecyn mawr yn y blaen a dwy boced lai a chysgodol yn ffurfio nyth o amgylch y Malus. Mae'r arena ganolog yn lle ar gyfer myfyrio tawel, gweithgareddau creadigol ac addysgiadol a hunan-ymarfer Tsieineaidd traddodiadol, sy'n ganolog i athroniaeth feddyginiaeth Tsieineaidd.

Rydym yn gweithio ar gynllun plannu fesul cam, tocio a siapio'r rhywogaethau presennol, ac rydym wedi plannu coed a llwyni strwythurol yn cynnwys Betula ermanii, Forsythia suspensa 'nymans', Hamamelis mollis , Cornus kousa var, rhywogaethau Tsieineaidd pensaernïol gan gynnwys Tetrapanax papyrifer, Rheum palmatum, Decaisnea fargesii a chorgonwydd ymledol sy'n amgylchynu'r meini hir llechi eirin a jâd. Rhoddwyd y strwythurau llechi hyn yn garedig iawn gan Derbyshire Aggregates gan dynnu ysbrydoliaeth o elfennau hanfodol: mynyddoedd artiffisial (jiashan), tirwedd mewn pot (penjing) a cherrig ysgolheigion '(gongshi).Dangosir y rhain yn y gwelyau i ddal hanfod ac ysbryd natur drwy gyferbyniadau. Caiff y tirlunio caled ei gwblhau gyda phorth y lleuad wedi ei wneud yn arbennig o bren llarwydd, sef agoriad crwn sy'n creu mynedfa gain ac eang i'r ardd ac mae'n elfen bensaernïol draddodiadol mewn gerddi traddodiadol Tseiniaidd. Yn Tsieina, mae ffwng (Wolfiporia extensa) yn tyfu ar wraidd y goeden pinwydd, a chred y Tsieineaid ei fod yn atal pob teimlad o eisiau bwyd, yn gwella clefydau amrywiol, ac yn ymestyn bywyd.

Mae'r cerflunwyr lleol Peter Boyd a Joey Chorley wedi adeiladu chwe mainc derw gwyrdd hardd ar gyfer y man eistedd, ac rydym wedi gosod nodwedd ddŵr cawg lili ferdigris, er cof am y darlithydd Gwyddorau Eigion, Eilir Morgan.

Rydym yn parhau i blannu rhywogaethau sy'n hoffi amodau cysgodol a sych o dan y Malus gyda Sarcococca hookeriana var. digyna, Ilex crenata, Lamprocapnos spectabilis, Kirengeshoma palmata ac amrywiaeth o Epimedium.  Mae'r gwelyau sy'n cadw mwy o leithder ym mhen pellaf yr ardd wedi'u cytrefu ag Astilbe chinensis, Podophyllum hexandrum, ac amrywiaeth o redyn meddyginiaethol gan gynnwys Polystichum polyblepharum, Dryopteris crassirhizoma a Matteuccia struthiopteris.  Mae'r cynllun plannu ar gyfer 2017 yn cynnwys cor rhododendron meddyginiaethol, Cornus, a Rubus a phlanhigion lluosflwydd llysieuol yn cynnwys serenllysiau, rhosyn y mynydd, Artemisia a Salvia.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Broject Gardd y Ddwy Ddraig ...