Newyddion: Ionawr 2019

Gwyddonydd o Brifysgol Bangor yn derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan brifysgol o Chile

Yn ddiweddar mewn seremoni yn yr Universidad de Magallanes (UMAG) dyfarnwyd 'doctor honoris causa' i Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor. Mae'r UMAG yn ninas Punta Arenas ar Gulfor Magellan yn ne Chile. Mae Dr Russell wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil botanegol yn y rhanbarth yn ystod yr 16 mlynedd diwethaf. Yn Tierrra del Fuego ceir amrywiaeth hynod eang o fwsoglau a llysiau'r afu, a ystyrir yn bryoffytau, ac fe wnaeth gwaith Dr Russell ar y planhigion bychain hyn - ond pwysig yn ecolegol - gyfrannu'n uniongyrchol at greu 'Gwarchodfa Biosffer Penrhyn yr Horn' yno yn 2005.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2019