Newyddion: Tachwedd 2016

Dr Sophie Williams yn agoriad swyddogol mynedfa Porth y Lleuad i'r Ardd Tsieineaidd newydd yng Ngerddi Botaneg Treborth, Bangor.

Yn ystod gwyliau haf 2016 Prifysgol Bangor, gwahoddwyd Dr Sophie Williams a'i phartner Robert, ynghyd â staff o Uned Ddibyniaeth Uchel Ysbyty Gwynedd, i Erddi Botaneg Treborth. Mae Dr Williams (32) yn parhau i adfer ei hiechyd ar ôl dal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra oedd yn gweithio ar broject ymchwil yn ne Tsieina yn ystod 2015. Torrodd Sophie y rhuban wrth fynedfa 'Porth y Lleuad' i'r Ardd Tsieineaidd, rhan sydd newydd ei chynllunio a'i phlannu o Erddi Botaneg Treborth Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2016