Dr Sophie Williams yn agoriad swyddogol mynedfa Porth y Lleuad i'r Ardd Tsieineaidd newydd yng Ngerddi Botaneg Treborth, Bangor.

Dr Sophie Williams gyda Shaun Russell (Cyfarwyddwr) a Natalie Chivers (Curadur) Gerddi Botaneg Treborth, Prifysgol Bangor, ar ôl torri'r rhuban wrth fynedfa Porth y Lleuad i'r Ardd Tsieineaidd newydd. Dr Sophie Williams gyda Shaun Russell (Cyfarwyddwr) a Natalie Chivers (Curadur) Gerddi Botaneg Treborth, Prifysgol Bangor, ar ôl torri'r rhuban wrth fynedfa Porth y Lleuad i'r Ardd Tsieineaidd newydd. Yn ystod gwyliau haf 2016 Prifysgol Bangor, gwahoddwyd Dr Sophie Williams a'i phartner Robert, ynghyd â staff o Uned Ddibyniaeth Uchel Ysbyty Gwynedd, i Erddi Botaneg Treborth. Mae Dr Williams (32) yn parhau i adfer ei hiechyd ar ôl dal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra oedd yn gweithio ar broject ymchwil yn ne Tsieina yn ystod 2015.

Torrodd Sophie y rhuban wrth fynedfa 'Porth y Lleuad' i'r Ardd Tsieineaidd, rhan sydd newydd ei chynllunio a'i phlannu o Erddi Botaneg Treborth Prifysgol Bangor. Mae Porth y Lleuad yn nodwedd draddodiadol o erddi Tsieineaidd a chafodd ei saernïo o bren llarwydd wedi'i sychu gan grefftwyr lleol yng Ngogledd Cymru.

Mae’r Ardd Tsieineaidd yn Nhreborth ar agor yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd ac mae'n cael ei ddatblygu er mwyn arddangos amrywiaeth cyfoethog o rywogaethau planhigion o Tsieina, yn cynnwys rhai a ddefnyddir mewn meddyginiaeth Tsieineaidd draddodiadol. Mae gan yr Ardd hefyd nodwedd ddŵr Cawg Lili a meinciau wedi'u saernïo â llaw o goed derw, a bydd yn gymorth i godi mwy o ymwybyddiaeth am ddiwylliant a hanes botanegol Tsieina. Mae'r Ardd yn rhan o gydweithrediad rhwng Gerddi Botaneg Treborth, Gerddi Botaneg Trofannol Xishuangbanna yn Tsieina, a'r Gerddi Botaneg Brenhinol yng Nghaeredin, a derbyniodd gyllid gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor. 

Dywedodd Dr David Joyner, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor:

Dr Sophie Williams (yn y gadair olwyn) ac ewyllyswyr da yn y seremoni torri rhuban i fynedfa Porth y Lleuad yr Ardd Tsieineaidd newydd yng Ngerddi Botaneg Treborth, ger Bangor.Dr Sophie Williams (yn y gadair olwyn) ac ewyllyswyr da yn y seremoni torri rhuban i fynedfa Porth y Lleuad yr Ardd Tsieineaidd newydd yng Ngerddi Botaneg Treborth, ger Bangor."Mae gosod Porth y Lleuad yn garreg filltir wych yn natblygiad yr Ardd Tsieineaidd yn Nhreborth, ac rydym yn hynod o falch fod Sophie - a gyfrannodd cymaint at sefydlu'r project - wedi gallu ymuno â ni ar yr achlysur pwysig hwn."

Mae'r fenter yn rhan o "Broject Gardd y Ddwy Ddraig" (mae'r teitl yn cyfeirio at symbolau cenedlaethol Cymru a Tsieina). Nod ehangach y project yw datblygu rhaglenni hyfforddiant arloesol i fyfyrwyr sy'n graddio ennill profiad gwaith mewn gerddi botaneg yng Nghymru a Tsieina, ac i'w helpu nhw ac eraill ddod o hyd i gyflogaeth fuddiol a chyfleoedd datblygu gyrfa ym meysydd garddwriaeth ac addysg amgylcheddol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2016