Cofnodion Gwyfynod a Meteorolegol

Cofnodion Gwyfynod yng Ngardd Fotaneg Treborth: adnodd gwerthfawr

Bob nos o'r flwyddyn gosodir trap gwyfynod "Robinson" y Gerdd Fotaneg y tu allan, ac yna'r diwrnod canlynol caiff yr holl wyfynod a ddaliwyd eu cofnodi a'u rhyddhau'n ddianaf. Dechreuwyd cadw cofnodion yn 1986/87, daethant i ben am gyfnod, ac yna maent wedi bod yn ddi-dor ers 1993 i'r presennol, gyda dim ond ychydig o fylchau byr. Mae'r adnodd maith a manwl hwn yn unigryw i ogledd Cymru, ac mae'n bosib ei fod ymysg y mwyaf cynhwysfawr yn y Deyrnas Unedig. Bellach, mae’r holl gofnodion hyn wedi eu rhoi ar gronfa ddata Excel, felly maent yn barod i gael eu dadansoddi'n wyddonol.

Ers 1986, mae cyfanswm o dros 321,000 o unigolion o 400 o rywogaethau macro-wyfynod wedi cael eu cofnodi, yn ogystal â 71 o rywogaethau micro-wyfynod. Mae isadenydd melyn mawr yn bresennol weithiau mewn niferoedd enfawr gyda chyfanswm o 50,600 (daliwyd 560 ohonynt mewn un noson, sef 31 Gorffennaf / 1 Awst 1995, a bron â bod cymaint â hynny ar sawl diwrnod arall). Y dart calon a saeth yw'r ail rywogaeth fwyaf niferus (cyfanswm o 26,300).

Mae rhai tueddiadau clir yn dod i'r amlwg: mae rhai rhywogaethau wedi cynyddu dros y blynyddoedd, tra bod eraill wedi dirywio. Nid oedd rhywogaethau fel y troedwas pyglyd, carpiog Awst, a'r siobyn cynffon felen yn cael eu gweld yn aml yn Nhreborth cyn 2000, ond erbyn hyn maent yn cael eu dal mewn niferoedd mawr. Ar y llaw arall, mae ychydig o rywogaethau oedd i'w gweld mewn niferoedd mawr ychydig o flynyddoedd yn ôl, yn brin erbyn hyn: er enghraifft, roedd y brithyn gwargwlwm a'r gwyfyn teires i'w cael mewn niferoedd sylweddol yn 1986, bu gostyngiad dros yr ychydig flynyddoedd wedyn, ac nid ydynt wedi cael eu cofnodi o gwbl ers 2005. Mae niferoedd llawer o rywogaethau eraill (megis yr isadain felen fawr, y dart calon a saeth, y crynwr cyffredin a'r brychan cleisiog) wedi bod i fyny ac i lawr dros y blynyddoedd, ond nid oes unrhyw duedd clir.

Gan fod cofnodion meteorolegol dyddiol yn cael eu cadw hefyd yng Ngerddi Botaneg Treborth, gellir cymharu'r amrywiadau dyddiol, misol, neu flynyddol yng nghofnodion y gwyfynod gydag amrywiadau hinsoddol: nid yw hyn wedi cael ei wneud hyd yma. Yn wir, mae gan yr holl gofnodion botensial enfawr ar gyfer dadansoddi a dehongli gwyddonol.

Rhowch y bai ar y dyn tywydd

Rydym yn disgrifio'r tywydd fel yr amodau atmosfferig a brofwn mewn un lle ar un pwynt mewn amser. Mae hyn yn ein hysbysu o'r hinsawdd, sef cyfartaledd y tywydd dros gyfnod o flynyddoedd. Gall hyn ddangos y math o dywydd gallwch ei brofi mewn mis/tymor penodol.

Yr hinsawdd yw'r hyn rydym yn ei ddisgwyl, y tywydd yw'r hyn a gawn!

Rydym yn cofnodi'r tywydd yma yn Nhreborth bob bore am 9am, gan nodi'r dyddiad, y glaw (mm) o'r diwrnod blaenorol, cyfeiriad a nerth y gwynt, thermomedr bwlb sych (hynny yw, y tymheredd am 9am y diwrnod hwnnw) a thymheredd uchaf ac isaf y diwrnod blaenorol.

Caiff ei gofnodi â llaw, ac yna mae data yn cael ei fewnbynnu ar hyn o bryd i gronfa ddata feteorolegol ar gyfer mynediad cyhoeddus.