Llogi a chostau

Cysylltwch â’r Ardd i gael rhagor o wybodaeth

Digwyddiadau Preifat a Chyfleusterau

Gellir llogi rhannau o’r Ardd, yn yr awyr agored a dan do, ar gyfer digwyddiadau, gweithdai a chyfarfodydd.

  • Mae’r ystafell haul yn lle golau ac agored y gellir ei defnyddio ar gyfer gweithdai, cyfarfodydd bach neu gyngherddau. Ond ar hyn o bryd nid oes ynddi llawer o wres ac ychydig iawn o oleuo. Felly mae mwy addas ar gyfer digwyddiadau yn ystod y dydd ac nid yn y gaeaf.
  • Y Labordy yw ein prif ystafell adnoddau, gyda byrddau a chadeiriau, microsgopau a chyfleusterau gwneud te a choffi. Gallwn ddarparu taflunydd data a sgrin ar gyfer cyflwyniadau.
  • Gellir cynnal digwyddiadau awyr agored ar raddfa fach tu allan.

Lluniaeth ysgafn

Sylwch nad oes gennym gaffi ar y safle. Mae caffi a bwytai ym Mhorthaethwy a Bangor.

Gallwch hefyd archebu bwyd o Wasanaeth Arlwyo’r Brifysgol.