Cysylltu â'r Ardd

Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad gan grŵp neu ysgol: treborth@bangor.ac.uk

Ymweliadau a drefnir

Ymweliadau gan grwpiau

Mae croeso i grwpiau ymweld â'r Ardd ond dylid gwneud trefniadau ymlaen llaw. Cysylltwch â'r Ardd yma.

Ymweliadau gan ysgolion i'n Hysgol Goedwig

Mae croeso i ysgolion ddod â phlant ysgol i'r Ardd ond dylid gwneud trefniadau ymlaen llaw. Cysylltwch â'r Ardd yma. Mae gennym ardal Ysgol Goedwig yn y coetir, gyda sesiynau a gynhelir gan:

Elfennau Gwyllt

Cysylltwch ag Elfennau Gwyllt:

Tom Cockbill
Swyddfeydd Rivendell
Gardd Fotaneg Treborth
Bangor
Gwynedd
LL57 2RQ 

tom@wildelements.org.uk 
07792014166

Gwefan Elfennau Gwyllt

Wonderwoods

Cyswllt Wonderwoods:

Jon Steele
jonathansteele1@googlemail.com 
07889 375 762

Tudalen Facebook Wonderwoods

Gwybodaeth am yr Ysgol Goedwig

Mae’r Ysgol Goedwig yn rhaglen benodedig sy'n cael ei harwain gan gyfranogwyr a gall cyd-fynd â themâu ysgolion. Cynhelir y rhaglen hon am o leiaf chwe sesiwn hanner diwrnod dros 6 wythnos. Ond profwyd eisoes po hiraf yw hyd y rhaglen, mwyaf oll yw'r effaith ar y rhai sy’n cymryd rhan.

Yn ystod y rhaglen ysgol goedwig ein bwriad yw gweithio gyda'r ysgol i gynnwys y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd a gweithgareddau trawsgwricwlaidd eraill. Gan fod pob ysgol goedwig yn rhaglen unigryw, gellir ei haddasu i gyd-fynd ag anghenion pob grŵp sy'n cymryd rhan.

Serch hynny, mae'n dilyn 6 egwyddor arweiniol:

  1. Taith ddysgu tymor hir a ailadroddir  - yn edrych ar y broses nid y canlyniad.
  2. Dan arweiniad y rhai sy’n cymryd rhan - Mae'n grymuso'r rhai sy'n cymryd rhan i gymryd rheolaeth o'u dysgu a'u datblygiad.
  3. Agwedd holistaidd - grwpiau bach, yn ysgogi'r holl synhwyrau a phob math o ddysgu.
  4. Yn hyrwyddo datblygiad emosiynol, hunan barch a hyder.
  5. Dan arweiniad arweinydd Ysgol Goedwig Lefel 3
  6. Galluogi'r rhai sy’n cymryd rhan i ennill parch a dealltwriaeth ddofn o'r byd naturiol.