Planhigion nodedig

Pinwydden Wollemi (Wollemia nobilis)

Wollemi PineMae'r Wollemia nobiliso o ddiddordeb botanegol eithriadol gan ei bod yn newydd i wyddoniaeth, ni chafodd ei darganfod tan 1994 yn ne ddwyrain Awstralia. Mae'n cynrychioli genws anhysbys hyd yma gyda chysylltiadau esblygol uniongyrchol i'r cas gan fwnci (Araucaria auracana), Pinwydden Ynys Norfolk (Araucaria heterophylla) yn ogystal â'r Binwydden Kauri (Agathis australis). Yn ychwanegol at hyn yw'r tebygolrwydd anhygoel a rennir gan Wollemia gyda rhai o ddeiliant ffosil conwydd mewn cyflwr da a dyfodd mewn sawl rhan o Hemisffer y De 90 miliwn o flynyddoedd yn ôl a chredwyd yn flaenorol iddynt fynd yn ddiflanedig 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl, gan wneud Wollemia yn yr hyn a elwir yn 'Ffosil Byw.' Plannwyd yr Wollemia yn Nhreborth yn 2007 gan y naturiaethwr a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Bangor, Iolo Williams, ac mae wedi'i lleoli y tu ôl i'r ardd greigiog mewn safle agored. 10 ffaith am y Wollemi:

10 ffaith am y Wollemi:

Wollemi Pine detail
  1. Mae'r Wollemia nobilis yn gonwydd ond nid yw'n binwydd - mae'n perthyn i'r teulu Araucariaceae, grŵp o goed conwydd hemisffer y de a gyrhaeddodd eu hamrywiaeth fwyaf posibl yn ystod y cyfnodau Jwrasig a Cretasaidd, 200-65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
  2. Mae'n wybyddus ar hyn o bryd y daw o ranbarth anghysbell o Barc Cenedlaethol Wollemi, ardal 500,000 hectar o anialwch yn New South Wales, Awstralia, sy'n rhan o Ardal Treftadaeth y Greater Blue Mountains. Mae'r ardal, sy'n parhau i fod yn gyfrinach, yn gyfres o geunentydd tywodfaen dwfn mewn coedwig law dymherus.
  3. Mae llai na 100 o sbesimenau yn y gwyllt a hyd yma nid yw samplu DNA wedi llwyddo i gael hyd i unrhyw amrywiad genetig canfyddadwy - i bob pwrpas, mae'r boblogaeth sydd wedi goroesi yn glonol.
  4. Mae'r coed talaf hyd at 40 metr o uchder (ac o leiaf 350 o flynyddoedd oed) gyda boncyff un metr mewn diamedr (er bod llawer o unigolion yn coedlannu'n naturiol a chynhyrchu dwsin neu fwy o foncyffion main). Mae'r rhisgl yn belennog ac mae'r dail bytholwyrdd yn amrywio o ran hyd a lled ac arlliwiau o wyrdd yn ôl oedran yr egin.
  5. Mae'r coed aeddfed yn tyfu conau gwrywaidd a benywaidd ar egin ar wahân, mae'r côn benywaidd (côn hadau) yn wyrdd ac yn 6-12cm o hyd, 5-10cm o led, gan gymryd 18-20 mis i aeddfedu. Mae'r conau gwrywaidd yn denau, 5-11cm o hyd a 1-2 cm o led.
  6. Defnyddir dulliau microledaeniad modern i ddarparu digon o stoc planhigion newydd i sicrhau goroesiad Wollemia yn y dyfodol yn ogystal â bodloni'r galw garddwriaethol enfawr am yr hyn sy'n ddi-os yn goeden gonifferaidd fwyaf nodedig a hardd gyda photensial addurnol mawr.
  7. Wrth ei thyfu mae'r goeden yn profi ei hun i fod yn hyblyg a chadarn, yn goroesi tymheredd rhwng minws 5 canradd a 45 canradd yn ogystal ag ystod eang o fathau o bridd, er bod compost wedi'i draenio'n dda o pH 6 neu lai yn well. Ymddengys ei bod yn addas i’w phlannu mewn twb ac mae’n hoffi haul neu gysgod.
  8. Y prif bla yw'r ffwng pydru gwreiddiau Phytophthora cinnamomi.
  9. Roedd coeden Treborth yn mesur 1.2m adeg ei phlannu (Gorffennaf 2007) - mae bellach yn mesur 2.25m (Mehefin 2016).
  10. Ym mis Medi 2012, wnaeth y Wollemia hadu am y tro cyntaf o bosibl yng Nghymru a dim ond yr ail waith yn y DU.

Cypreswydden fynydd, Cypreswydden y Penrhyn (Widdringtonia nodiflora)

Coeden prysgoediog o lethrau mynydd agored o dde orllewin Cape i Afon Limpopo, mae'n brin yn y gwyllt, ac ni welir yn aml mewn gerddi. Roedd yn rhodd o Glasnevin, ac mae'n goeden goffa. Mae'r rhywogaeth hon sy'n perthyn i'r Cupressaceae, yn wydn dim ond yng ngorllewin y DU. Mae ganddi ddail cennog sy'n nodweddiadol o'r teulu hwn, nodwedd seroffytig, fel sy'n briodol i'w hardal gynhenid sy'n sych yn dymhorol. Mae ei ffurf drwchus yn nodweddiadol o'r rhywogaeth ac mae'n cynhyrchu cnwd toreithiog o gonau benywaidd, sy'n ddeniadol, caled ac fel lledr: mae'r conau gwrywaidd yn llawer llai. Yn wahanol i aelodau eraill o'i genws, mae'r rhywogaeth hon yn gallu prysgoedio ac ailegino ar ôl tân. Dewch i weld y Widdringtonia gyferbyn â border De Affrica ar y brif lawnt.

Derwen Lucombe (Quercus x hispanica 'Lucombeana')

Lucombe OakMae'r Dderwen Lucombe yn groes rhwng Derwen Twrci ( Quercus cerris ) a'r Goeden Gorc (Quercus suber). Roedd William Lucombe (cyn 1720 - ar ôl 1785) yn feithrinwr, ac enwyd y Dderwen Lucombe ( Quercus x hispanica 'Lucombeana') ar ei ôl ef. Tyfwyd ganddo yn ei feithrinfa yn St Thomas, Exeter a sefydlodd yn 1720. Gwelwyd y Dderwen Lucombe gyntaf yn 1762 pan sylwodd Lucombe bod un o'r coed ifanc a gynhyrchwyd o fesen Derwen Twrci a blannwyd ganddo wedi cadw ei ddail yn y gaeaf. Sylwodd yn ddiweddarach bod y nodweddion hyn yn digwydd lle'r oedd y ddau riant (Derwen Twrci a'r Goeden Gorc) yn tyfu. Mae'r gwir Derw Lucombe yn glonau o'r goeden wreiddiol, ond defnyddir Derwen Lucombe yn aml hefyd i gyfeirio at unrhyw groesryw rhwng y Dderwen Twrci a'r Goeden Gorc.

Mae gennym ddau sbesimen yn Nhreborth, y credir iddynt gael eu plannu gan Syr Joseph Paxton, dylunydd tirwedd blaenllaw yn ystod Oes Fictoria fel rhan o'i gynlluniau Parc Britannia.

Llindagwr ffigys (Ficus aurea)

Strangler Fig

Yn llechu yng nghefn y Tŷ Trofannol mae planhigyn hardd ond arswydus yn tyfu, sy'n gwasgu ei ysglyfaeth, ac yn tyfu i fyny i'r canopi i gystadlu am oleuni. Mae'r Ficus aurea, y ffigys llindagwr yn goeden o'r teulu Moraceae sy'n dechrau ei bywyd fel eginblanhigion epiffytig. Wrth iddi dyfu mewn hollt yn ei phlanhigyn cynhaliol (rhywogaeth o goeden drofannol arall fel rheol), mae'n anfon gwreiddiau yn yr awyr i lawr sydd yn y pen draw yn cysylltu ac yn sefydlu yn y ddaear. Gyda gwreiddiau daearol, gall yn awr ehangu ac amlyncu'r planhigyn cynhaliol, gan gystadlu â'r planhigyn hwnnw am faetholion, dŵr a golau. I bob pwrpas, mae'n amgylchynu'r planhigyn cynhaliol ac yn ei ladd. Mae'r Ficus sy'n deillio o hyn yn goeden wag fawr gyda boncyff delltog cryf.

Ffenomen ryfeddol arall sy'n gysylltiedig â'r genws Ficus, yw eu cydymddibyniaeth anorfod (perthynas) gyda phryfed ffigys. Caiff rhywogaethau ffigys eu peillio gan bryfed ffigys yn unig a dim ond pryfed ffigys gall beillio rhywogaethau ffigys. Mewn gwirionedd, y blodau benywaidd sydd wedi eu peillio yw'r cnawd trwchus y tu mewn i ffigys rydym yn hoff o’i fwyta. Felly mae'r ffigys yn ffrwyth gyda blodau tu mewn iddo! Mae gan F. aurea flodau gwrywaidd a benywaidd o fewn y syconiwm (y ffrwyth). Mae blodau benywaidd yn aeddfedu yn gyntaf ac yn cynhyrchu atynnwr cemegol sy'n denu gwenyn meirch benywaidd. Mae'r gwenyn meirch hyn yn gwasgu eu ffordd drwy dwll bach ac i mewn i'r syconiwm, ac unwaith eu bod y tu mewn maent yn peillio'r blodau, yn dodwy eu hwyau mewn rhai ohonynt, ac yna'n marw.

Mae'r wyau'n deor ac mae'r larfau'n paraseitio'r blodau lle cawsant eu dodwy. Ar ôl pedair i saith wythnos (yn F. aurea), mae'r gwenyn meirch sy'n oedolion yn dod allan. Mae'r gwenyn meirch yn paru, a thorri tyllau i fynd allan drwy waliau'r ffigys. Mae'r blodau gwrywaidd yn aeddfedu o gwmpas yr un adeg ag y mae'r gwenyn meirch benywaidd yn dod allan. Mae'r gwenyn meirch benywaidd sydd newydd ddod allan yn mynd ati i bacio eu cyrff gyda phaill o'r blodau gwrywaidd cyn gadael drwy'r tyllau ymadael y mae'r gwrywod wedi eu torri ac yn hedfan i ffwrdd i ddod o hyd i syconiwm lle gallant ddodwy eu hwyau. Mae'r ffigys yn aeddfedu dros y pum diwrnod nesaf.

Cyflwynwyd ein ffigys llindagwr i'r Tŷ Trofannol ym 1979, ac mae wedi cytrefu'r pen pellaf, gyda'i gwreiddiau mawr o'r awyr wedi tyfu fel bysedd i mewn i'r pwll isod. Mae'n sbesimen gwych ond mae angen ei thocio'n llwyr yn rheolaidd i'w hatal rhag mygu popeth arall!

Creigafal y Gogarth (Cotoneaster cambricus)

Gelwir Creigafal y Gogarth (Cotoneaster cambricus) yn Saesneg yn Wild Cotoneaster neu'r Great Orme Berry. Mae ganddo ddail hirgrwn llwydwyrdd deniadol sy'n wlanog oddi tanynt ac yn mesur 15-40mm. Mae blodau pinc-gwyn o gwmpas 3mm mewn diamedr yn ymddangos rhwng Ebrill a Mehefin mewn clystyrau o 2-4. Mae’r aeron yn fach (508mm ar draws) ac yn oren-goch llachar gan edrych fel afalau bach. Y Gogarth yn Llandudno yw’r unig leoliad y gwyddys amdano yn y DU lle ceir y planhigyn hwn, ac mae’n tyfu ar silffoedd ynysig ac agored ar y clogwyni.

Credwyd yn wreiddiol mai Cotoneaster intergerrimus oedd y planhigyn hwn, a allai fod wedi cael ei gyflwyno i'r DU. Ond mae tystiolaeth genetig ddiweddar gan Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew wedi dangos ei fod yn rhywogaeth frodorol yn ei rhinwedd ei hun, sef Cotoneaster cambricus. Pan gofnodwyd ef gyntaf yn y 18fed ganrif, fe’i disgrifiwyd fel planhigyn a oedd wedi’i ddosbarthu’n eang yn yr ardal ond, erbyn 1978, roedd y nifer wedi gostwng i chwe phlanhigyn. Oddi ar hynny, ychwanegwyd at y boblogaeth hon trwy gyflwyno planhigion newydd a dyfwyd mewn planhigfa.

Yn ogystal â chael ei rhestru fel rhywogaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy, mae'r Cotoneaster cambricus hefyd wedi'i dynodi fel rhywogaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU - gan dynnu sylw at yr angen i weithredu i warchod y rhywogaeth hon.

Anfonwyd planhigion Creigafal y Gogarth i Kew, Ness a Gardd Fotaneg Treborth i gynnal a chadw sbesimenau o'r planhigyn y tu allan i'r Gogarth. Mae ein sbesimenau wedi eu lleoli ar y calchfaen ym mhen uchaf yr ardd garegog lle mae'n tyfu mewn swbstrad calchaidd sy'n draenio'n rhwydd.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Gweithredu y Rhywogaeth Cotoneaster cambricus.

cylchlythyr

Conservation propagation of Cotoneaster cambricus

Conservation propagation – a legacy project