Beth sy'n newydd?

Hilary Miller

Adnewyddu’r Tŷ Cigysol

Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a chewch ddisgrifiad llawn o'r project cyn hir, mwy i ddod!

Rhedynfa - Yr iard

Wrth gael gwared â'r coed conwydd mawr uwch ben y tai gwydr yng nghefn yr iard i leihau'r risg o ddifrod a chael rhagor o olau i'r tai gwydr, datgelwyd arglawdd hardd gyda cherrig mewn mannau, sy'n troi ar linell grom tuag at y siediau. Mae bonion y coed mawr sydd ar ôl yn nodwedd ddeniadol o'r arglawdd fydd yn cael ei gynnwys yn y cynllun i greu rhedynfa. Er mwyn ychwanegu at y rhywogaethau niferus o redyn gwydn, mae'r cynllun plannu yn cynnwys asaleas a grug i gael strwythur, a blodau parhaol sy'n hoffi cysgod megis Hosta, Heuchera, Hellebore ac Ajuga, a bylbiau fel Erythronium, Cyclamen ac Anemone i gael fflachiadau o liw trwy gydol y flwyddyn. Caiff rhedyn sydd ddim yn wydn eu harddangos mewn potiau ar y bonion coed, ac rydym yn gobeithio plannu coedredynen ar ben y grisiau llechi. Rydym yn datblygu casgliad o degeirianau gwydn mewn partneriaeth â Laneside Hardy Orchids fydd yn cael eu plannu/arddangos yn y rhedynfa.

Gwely'r ynysoedd - Tŷ Tymherus

Yr ail broject yw ailddatblygu'r 'Gwely Tenerife' yn y tŷ tymherus. Mae fflora endemig o ynys Tenerife ar y gwely sy'n ymestyn ar hyd ochr dde'r tŷ tymherus, ond mae angen gwneud ychydig o waith adnewyddu yno. Rydym wedi penderfynu ail-weithio’r casgliad Tenerife / Ynysoedd Dedwydd presennol i fod yn arddangosfa ehangach ar ffurf 'Ynys Fflora', yn dangos rhywogaethau endemig o Fadagascar, St Helena ac ynysoedd Siapan ynghyd â'r Ynysoedd Dedwydd.