Mai 2021

SuLlMaMeIGSa
1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
3031

Arwerthiant Planhigion y Gwanwyn

Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Lleoliad:
Gardd Fotaneg Treborth
Amser:
Dydd Gwener 21 Mai 2021, 10:00–16:00
Cyswllt:
01248 388877

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'n gwerthiant planhigion y gwanwyn. Fis Mai hwn byddwn ar agor rhwng 10am a 4pm, mae’r tocynnau am ddim i'w harchebu, ac maen nhw'n rhoi slot awr i chi.

Gofynnwn i chi ymweld yn ystod yr amser ar eich tocyn yn unig er mwyn i ni reoli nifer y bobl ar y safle.

Bydd y cyfyngiadau hyn yn sicrhau ei bod yn hawdd cadw pellter cymdeithasol, a bydd yn rhoi cyfle i bawb ymweld, edrych o gwmpas a phrynu mewn amgylchedd diogel.

Mae'r holl blanhigion yn cael eu tyfu gan Gyfeillion a garddwriaethwyr Gardd Fotaneg Treborth. Bydd gennym ddetholiad eang o blanhigion ar gael trwy gydol y dydd. Ni fydd yr holl blanhigion yn cael eu harddangos ar ddechrau'r dydd fel y gallwn roi mwy o stoc allan trwy gydol y dydd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr un dewis ac amrywiaeth o blanhigion ar gael i bawb sy'n ymweld ar wahanol slotiau amser.

Bydd yr amrywiaeth o blanhigion sydd ar werth yn cynnwys:

- Eginblanhigion llysiau
- Planhigion unflwydd a pharhaol
- Planhigion cigysol
- Tegeirianau.
- Cacti a phlanhigion suddlon
- Planhigion tŷ
- Coed a llwyni

Bydd compost di-fawn hefyd ar gael i'w brynu.

Eitemau Eraill ar Werth

- Diodydd poeth, bwydydd sawrus a chacennau mewn cynwysyddion tecawê i chi eu mwynhau y tu allan

- Cacennau a fydd wedi’u lapio.
- Jamiau a siytni ffres.
- Cardiau rhodd botanegol wedi'u gwneud â llaw.
- Bydd detholiad bach o fusnesau lleol talentog yn cynnal eu stondinau eu hunain yn gwerthu cynnyrch lleol a chynnyrch a wnaed â llaw.

Bydd un man talu digyswllt a sawl man talu ag arian parod. Ceisiwch roi'r swm cywir o arian rhag gorfod cael newid.

Parcio am ddim a mynediad i doiledau.

Archebwch slot trwy glicio ar y cyswllt eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/treborth-botanic-garden-plant-sale-tickets-154292467925?aff=erelexpmlt