Oriau agor a mynediad

Cewch ymweld â'r ardd am ddim, ond os ydych wedi mwynhau eich ymweliad rydym yn gwerthfawrogi derbyn rhoddion a fydd yn mynd tuag at gynnal a chadw'r Ardd. Gellir rhoi rhoddion i aelod o'r staff neu un o'r gwirfoddolwyr.

Mae'r gerddi allanol yn agored yn ystod oriau'r dydd. Mae’r tai gwydr yn agored pan gynhelir digwyddiad (e.e. gwerthu planhigion neu arddangosfa) neu ar ddiwrnod gwirfoddolwyr (dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 10.30 a 15.00). Gofynnwch am ganiatâd aelod o'r staff neu wirfoddolwr cyn mynd i mewn i unrhyw un o'r tai gwydr, a sylwch ar unrhyw gyfyngiadau o ran mynediad (e.e. os yw'r llwybrau'n llithrig neu os bydd rhaid cau un o'r tai gwydr am resymau diogelwch).

Bydd ymwelwyr yn mynd i unrhyw ran o'r ardd neu'r tai gwydr ar eu menter eu hunain.