Croeso i Ardd Fotaneg Treborth
Y Tiroedd
Mae Gardd Fotaneg Treborth yn 18 hectar ar lannau'r Fenai ac mae wedi bod ym meddiant Prifysgol Bangor er 1960. Mae'r ardd yn cynnwys 15ha o goetir brodorol, 2ha o laswelltir heb ei drin sy'n cynnwys llawer o rywogaethau, a 1ha o berllan dan reolaeth a llawer o goed a llwyni llawn dwf.
Tai Gwydr
Ceir hefyd chwe thŷ gwydr o wahanol dymheredd yn cynnwys casgliadau arbennig, megis tegeirianau, cacti, planhigion suddlon a phlanhigion cigysol. Gall y cyhoedd fynd i'r ardd awyr agored am ddim unrhyw bryd ac mae'r tai gwydr yn agored ar adegau penodol pan fo staff neu wirfoddolwyr yn bresennol.
Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth
Mae'r ardd yn ffodus o gael cefnogaeth corff elusennol sydd wedi'i drefnu'n dda, sef Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth. Yn ogystal â chyflawni amrywiaeth o weithgareddau codi arian, maent yn brysur yn cynorthwyo staff yr ardd i gynnal a chadw'r ardd, y coetir a'r tai gwydr.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn Nhreborth yn ffordd wych o ddysgu mwy am blanhigion a'r amgylchedd naturiol. Yn wir, mae llawer o'r ardd yn cael ei chynnal a'i chadw drwy gefnogaeth gwirfoddolwyr ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gawn. Edrychwch i weld sut y gellwch chi gymryd rhan ...