Adar
Mae 125 o rywogaethau o adar wedi cael eu cofnodi yn Nhreborth, sydd mewn man ardderchog ar hyd llwybr ymfudo (Afon Menai) ac yn cynnwys amrywiaeth o goetir, parcdir a glaswelltir.
Adar Preswyl
Mae 43 o rywogaethau'n preswylio ac yn bridio ar y safle, gan gynnwys:
- Y Crëyr glas,
- Y Crëyr Bach,
- Hwyaden yr Eithin,
- Y Gwalch Glas,
- Y Boncath,
- Y Dylluan Frech,
- Y Gigfran,
- Y Gnocell fraith fwyaf,
- Y Dringwr Bach,
- 5 rhywogaeth o bincod,
- 4 rhywogaeth o ditw,
- a 3 rhywogaeth o fronfraith.
Mae'r ffaith bod cymaint o amrywiaeth o adar i'w gweld yn yr ardd yn rhoi digon o gyfle i fyfyrwyr i gymharu ac ymchwilio i sawl agwedd ar ymddygiad adar yn enwedig technegau hela.
Ymfudwyr rheolaidd
Ymysg yr ymfudwyr rheolaidd sy'n bridio yn Nhreborth y mae:
- y telor penddu,
- y llwydfron,
- a'r siff-siaff.
Ar y Fenai
Mae tair rhywogaeth o fôr-wennol yn defnyddio Afon Menai yn yr haf ac mae'r Fôr-Wennol Gyffredin a Môr-wennol y Gogledd yn bridio ar rai o'r ynysoedd yn yr afon.
Yn y gaeaf mae niferoedd ac amrywiaeth da o adar hirgoes ac adar dŵr yn ymgasglu ar hyd y draethlin ac yn nyfroedd agored Pwll Ceris gan gynnwys:
- Y Bioden Fôr,
- Y Gylfinir,
- Y Ganwraidd Goesgoch,
- Pibydd y Mawn,
- Y Gorhwyaden,
- Yr Hwyaden Wyllt,
- Y Chiwell,
- Hwyaden yr Eithin,
- Yr Hwyaden Frongoch,
- Yr Ŵydd Wyllt, a Gŵydd Canada.
Mae'r rhain yn eu tro yn denu'r Hebog Tramor sy'n bridio ar Bont Britannia ambell flwyddyn.
Yn y gaeaf, gwelir nifer fawr o goch dan adain yn yr ardd, ynghyd â'r Aderyn Du a'r Fronfraith o ddwyrain Ewrop a Ffeno-Sgandinafia.
Ymwelwyr Achlysurol
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Hebog yr Ehedydd,
- Gwalch y Pysgod,
- Gwalch Marthin
- Y Gnocell Fraith Leiaf,
- Y Gnocell Werdd,
- Pinc y Mynydd,
- Y Gynffon Sidan,
- a'r Trochydd Mawr.