Cadwraeth Planhigion
Mae mwy na 2,000 o rywogaethau o blanhigion wedi cael eu cofnodi yng Ngardd Fotaneg Nhreborth, sydd yn ymestyn dros 18ha (44 erw). Mae tua hanner y rhywogaethau hyn yn frodorol i Ynysoedd Prydain ac naill ai'n tyfu'n naturiol ar y safle neu wedi eu cyflwyno yno fel sbesimenau. Mae'r grwp olaf yn cynnwys llawer o rywogaethau prin sy'n cael eu cynnal am resymau cadwraeth, ac mewn rhai achosion er mwyn eu hailgyflwyno i'r gwyllt. Mae hanner y rhywogaethau planhigion yn yr ardd yn rhywogaethau anfrodorol o bob cwr o'r byd a ddefnyddir at ddibenion gwyddonol, addysgol ac addurniadol. Mae llawer o'r rhain hefyd, o werth cadwraethol ac mewn rhai achosion maent yn cael eu cynnal fel rhan o ymdrechion byd-eang i amddiffyn rhywogaeth dan fygythiad neu mewn perygl e.e. Pinwydden Wollemi o Awstralia.
Planhigion fasgwlaidd sy'n frodorol i Ardd Fotaneg Treborth
Mae Treborth yn aelod o amryw o gynlluniau byd-eang a rhwydweithiau rhyngwladol i warchod planhigion, ac mae ganddi gysylltiadau gweithredol â sawl gardd fotaneg arall yn y DU (e.e. y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew a Chaeredin) a thramor, e.e. Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna yn Tsieina a Gardd Fotaneg Katse yn Lesotho.
Mae ystâd Treborth yn cynnwys enghraifft brin o goetir derw hynafol sy'n rhedeg wrth ochr glan y môr, ac sydd wedi ei warchod gan ddynodiad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dyfarnwyd grant rheoli coetir "Glastir" LLywodraeth Cymru i'r gynefin hon yn Nhreborth.
Yn ogystal â phlanhigion prin sydd o ddiddordeb cadwraethol, ar y safle ceir llawer o rywogaethau anifeiliaid didddorol sydd wedi eu gwarchod gan gynnwys gwiwerod coch. Mae ardal nythu creyrod glas lle mae'r ardd yn ffinio â thraethlin Afon Menai, ac ers dros 20 mlynedd cadwyd cofnod o wyfynod sy'n hedfan yn y nos.
Mae projectau unigol i warchod rhywogaethau sy'n frodorol i Gymru yn cael eu cynnal yn Nhreborth ac mae llawer o waith addysgu a maes yr ardd yn canolbwyntio'n benodol ar warchod planhigion ac anifeiliaid ar gyfer ystod helaeth o gynulleidfaoedd.
I wybod mwy darllenwch y disgrifiad llawn o Goetir Gardd Fotaneg Treborth a'r safle SODdGA (pdf)..