Gardd Goed

Ywen
Ywen
Arboretum
Arboretum
Taiwania
Taiwania

Newidiadau, Cyfleoedd a Sialensiau

Yr Ardd Goed (Arboretum) yw'r stripyn o goedlan, rhwng y ffordd a'r rheilffordd, sy'n mynd o'r giât fynediad (wrth y Porthdy) at y tai gwydr. Tan yn ddiweddar roedd y fan hon wedi ei hesgeuluso i raddau a llawer o goed a llwyni wedi hadu eu hunain yno, yn cynnwys bedw, helyg a masarn, ynghyd â bambŵ, llawr-geirios a rhododendron ymledol. Ond yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae wedi cael ei glirio'n sylweddol. Dechreuodd hyn gydag adeiladu llwybr yr arfordir (sy'n mynd drwy'r rhan ddwyreiniol ohono), a pharhaodd drwy ymdrechion glew Gerry Downing a llawer o fyfyrwyr a wirfoddolodd, ynghyd â chymorth Adran Ystadau'r brifysgol gyda rhai o'r coed mwy.  Mae hyn wedi creu llawer o olygfeydd hyfryd a llennyrch deniadol ac amlygu nifer o foncyffion coed cadarn.  Achoswyd newidiadau pellach gan stormydd diweddar a wnaeth ddadwreiddio neu dorri nifer o sbesimenau coed yn yr ardd goed.  Gwaetha'r modd mae'r Gedrwydden Arogldarth wych (Calocedrus decurrens) wedi mynd. Fe'i torrwyd gan y stormydd diweddar, ynghyd â changen enfawr o'r onnen fwyaf (Fraxinus excelsior), sydd wedi niweidio'r goeden gymaint fel y bydd rhaid ei thorri mae'n fwy na thebyg. Ond, at ei gilydd, coed a oedd eisoes mewn cyflwr gwael ac i'w torri beth bynnag ddioddefodd gan y stormydd.

Fel mae llawer o bobl yn gwybod, ein bwriad yw creu 'Llinell amser' yn yr ardd goed, er mwyn dangos y newidiadau yn y coed a ddaeth i Gymru drwy'r blynyddoedd.  Bydd yn cynnwys y rhan fwyaf o'r rhywogaethau mwyaf cyffredin o goed a geir yng Nghymru, gan ddangos pryd y cyrhaeddodd pob rhywogaeth a pham mae yma. Ein bwriad yw rhoi label enw (yn Gymraeg, Saesneg a Lladin) ar bob rhywogaeth a nodi pryd y gwnaeth ymddangos (e.e. yn y cyfnod ôl-rewlifol, yn yr oesoedd canol neu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg etc.)  Gobeithiwn ychwanegu at hyn gyda thaflen eglurhaol, gyda gwybodaeth bellach ar gael ar y wefan.

Mae'r ardd goed bresennol yn cynnwys nifer o sbesimenau coed anarferol a deniadol (megis y goeden arch  (Taiwania cryptomerioides),  y dderwen dannedd llif ( Quercus acutissima), a'r dderwen Hwngaraidd ( Quercus frainetto)  ymysg eraill), ynghyd â rhai ffynidwydd Douglas (Pseudotsuga menziesii ), sbriws ( Picea  spp.), ac yw ( Taxus baccata ) rhagorol.  Cedwir y rhain wrth gwrs, ond ychwanegir atynt drwy blannu mwy o goed yn y llennyrch sydd newydd eu hagor. Mae hyn yn debygol o fod yn broject hir dymor, gyda phlannu'n digwydd fesul cam dros nifer o flynyddoedd, fel bydd arian a llafur yn caniatáu.  

Yn ystod hydref 2015 i wanwyn 2016 fe wnaethom blannu detholiad o goed a gyflwynwyd gan y Rhufeiniaid, yn cynnwys cnau ffrengig, morwydd a gellyg gwyllt yn y fan lle'r arferai'r bambŵ fod (i'r dwyrain o faes parcio llwybr yr arfordir). Lle bo modd rydym yn ceisio sicrhau fod pob rhywogaeth yn dod o darddiad Cymreig.

Eitem arall ar ein rhestr ddymuniadau i'r ardd goed yw ychwanegu mwy o amrywiaeth a lliw at y blodau sy'n blodeuo yn y gwanwyn, yn cynnwys clychau'r gog, eirlysiau, cennin pedr, blodau'r gwynt a briallu.  Drachefn, ein nod yw plannu rhywogaethau gwyllt yn hytrach nag amrywiaethau gardd, e.e. y gwir glychau'r gog brodorol, eirlysiau gwyllt, a'r gwir gennin pedr gwyllt (er y gallem dderbyn cennin pedr Dinbych y Pysgod efallai!) o'u cymharu â'r mathau mwy a gorliwgar a geir mewn gerddi.