Tai Gwydr
Mae cyfran fawr o gasgliad byw Treborth yn cael eu cynnwys yn y 6 thŷ gwydr, sy'n cynnwys 5 tŷ gwydr arddangos sy'n agored i'r cyhoedd ac 1 tŷ lluosogi.
Symudwyd tri o'r tai gwydr a oedd yn wreiddiol ar safle Thoday ym Mangor i Treborth yn fuan yn y 1960au ac maent yn dal i sefyll fel y Tai Trofannol, Tymherus a Thegeirianau presennol. Erbyn hyn maent yn eu seithfed degawd ac wedi bod yn fuddiol iawn i'r brifysgol.