Plannu masarnen yn Nhreborth i nodi llwyddiant graddedigion newydd

Mae'r Ysgol Gwyddorau Naturiol wedi nodi llwyddiant myfyrwyr oedd ar flwyddyn olaf eu hastudiaethau yn 2020-21 drwy blannu masarnen goch yn yr Ardd Tsieineaidd yng Ngardd Fotaneg Treborth.

Dadorchuddiwyd plac wedi ei wneud o bren lleol yn ystod y seremoni blannu, gyda phump graddedig yn bresennol i gynrychioli israddedigion a myfyrwyr ôl-radd.

Meddai'r Athro Nia Whiteley, Pennaeth yr Ysgol, "Dyma gyfle i'r brifysgol ddiolch i'n myfyrwyr am ymdopi â'r holl newidiadau a'r addasiadau bu'n rhaid eu gwneud yn sgil y pandemig.

"Bu'n rhaid i fyfyrwyr addasu i ddysgu cyfunol - trwy ryngweithio gyda darlithwyr, cyfoedion, cydweithwyr a goruchwylwyr yn y byd rhithiol yn hytrach nag yn y cnawd, ac roedden ni eisiau cydnabod hynny. Bu rhaid aberthu ac mae myfyrwyr ac ymchwilwyr wedi gorfod addasu trwy gadw pellter cymdeithasol, defnyddio sgriniau persbecs a cholli cyfleoedd fel mynd ar deithiau maes dramor.

"Mae afiechydon hynod heintus, a'r mesurau a sefydlwyd i osgoi lledaenu'r haint, yn anghymdeithasol o ran eu natur. Er ein bod wedi cynnig sawl gweithgaredd yn y cnawd mewn amgylchedd diogel rhag Covid, rydym yn ymwybodol bod rhai myfyrwyr wedi teimlo'n ynysig. Er gwaetha'r amddifadedd cymdeithasol hwn, mae'n myfyrwyr wedi bod yn anhygoel. Mae eu dygnwch, eu cryfder a'u gallu i fwrw ymlaen a llwyddo wedi creu argraff arbennig.

"Mae'r fasarnen goch yn deyrnged i ddyfalbarhad a llwyddiant dosbarth 2021 ac yn symbol o ddewrder a fydd yn sefyll yma am flynyddoedd i ddod mewn lle amlwg yn yr ardd Tsieineaidd yn Nhreborth."

Meddai Sophie Davies, raddiodd gyda BSc Swoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid, "Mae'n golygu llawer i mi bod y brifysgol wedi gwneud hyn, ac wedi gwneud pob ymdrech i wneud y profiad mor dda â phosib dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n ddigwyddiad unigryw mewn blwyddyn unigryw."

Ychwanegodd Dr Richard Dallison, "Bu’n her i nifer  o ymchwilwyr ôl-radd ar draws yr ysgol i wneud gwaith yn y labordy a gwaith maes a pharhau gyda phrojectau fel y’u cynlluniwyd. Felly, mae'n braf cael y goeden yma i gydnabod yr heriau y mae pobl wedi eu goresgyn."

Yn ogystal â'r goeden, mae'r ysgol yn trefnu blwyddlyfr digidol ar gyfer Dosbarth 2020-21, a fydd yn cynnwys lluniau a hoff atgofion.

Yn y llun o'r chwith i'r dde mae: Natalie Chivers, Dr Richard Dallison, Sophie Davies, Professor Nia Whiteley, Dr Graham Bird, Dr Daniel Chaplin, Catherine Pearson, Professor George Turner, Dr Lorrie Murphy, Laura Bischoff

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2021