Helfa Ffyngau
Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth
- Lleoliad:
- Gardd Fotaneg Treborth
- Amser:
- Dydd Sul 16 Hydref 2022, 10:00–13:00
- Cyswllt:
- treborth@bangor.ac.uk
Mae mycota (neu fflora ffyngol) yr ardd fotaneg yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus yng Ngogledd Cymru a chynhelir teithiau hel ffyngau yno ers dros dri deg o flynyddoedd. Nid oes raid i chi fod yn arbenigwr i ryfeddu at yr amrywiaeth anhygoel o gaws llyffant, codau mwg, ffyngau jeli a chingroen a welir ar y teithiau hyn.
Ymunwch â'n helfa madarch gwyllt traddodiadol bore Sul yng Ngerddi Botaneg Treborth. Gweithdai adnabod sy'n cael eu rhedeg gan arbenigwyr lleol Nigel Brown a Charles Aaron, cystadlaethau ffwngaidd a lluniaeth
Eleni byddwn yn gweithredu system archebu i sicrhau na fydd yr ardd yn gorlenwi, a bydd digon o leoedd awyr agored.
Bydd yr ardd yn agored rhwng 10am ac 1pm.
Parcio am ddim ar y safle
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at treborth@bangor.ac.uk