Prosiect Wych Elm
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu Gardd Fotaneg Treborth i ledaenu deunydd o lwyfenni llydanddail aeddfed yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Allt y Benglog ym Meirionnydd ac yn y cyffiniau. Mae'r llwyfenni aeddfed yn cynnal cen prin: Biatoridium monasteriense, Dyma'r unig safle y gwyddys amdano yng Nghymru lle mae'r rhywogaeth yn tyfu.
Pwrpas y project yw ceisio sicrhau bod swbstrad addas yn parhau i fod ar gael o fewn y warchodfa i'r cennau gytrefu arno yn y dyfodol. Dymchwelwyd 'mam goeden' y cennau gan wynt rai blynyddoedd yn ôl ac mae wedi cael ei hadfer i'w lle ac mae'n parhau i gynnal y cennau ond mae'n fregus yn y tymor canolig i hir. Canfuwyd bod dwy goeden arall yn is i lawr yr afon yn cynnal y cennau. Dim ond dwy lwyfen lydanddail aeddfed arall y gwyddys amdanynt ar y safle, ond ar hyn o bryd nid ydynt i weld yn cynnal sbesimenau o B. monasteriense.
Mae Gardd Fotaneg Treborth yn cynnig lledaenu deunydd o'r llwyfenni aeddfed gan ddefnyddio amryw o dechnegau priodol:
- Toriadau pren caled - i'w casglu yn y gaeaf
- Toriadau pren meddal - i'w casglu yn yr haf
- Haenu awyr - haf
- Hadau - hadau i'w casglu pan fyddant yn aeddfed (Mai fwy na thebyg)
Y technegau dewisol yw toriadau/haenu gan y bydd y rhain yn cynhyrchu coed sy'n unfath yn enetig â'r rhiant-goed, a bydd hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y coed yn cynhyrchu swbstrad addas i'r cennau.