Creigafal y Gogarth (Cotoneaster cambricus)

Creigafal y Gogarth (Cotoneaster cambricus) fe'i hadwaenir hefyd fel 'Great Orme Berry'. Mae ganddo ddail hirgrwn llwyd-wyrdd deniadol sy'n wlanog oddi tanynt ac yn mesur 15-40mm. Mae blodau pinc-gwyn o gwmpas 3mm mewn diamedr yn ymddangos rhwng Ebrill a Mehefin mewn clystyrau o 2-4. Mae’r aeron yn fach (508mm ar draws) ac yn goch-oren llachar, yn edrych fel afalau bach. Y Gogarth yn Llandudno yw’r unig leoliad y gwyddys amdano yn y DU lle ceir y planhigyn hwn, ac mae’n tyfu ar silffoedd ynysig ac agored ar y clogwyni.

Credwyd yn wreiddiol mai Cotoneaster intergerrimus oedd y planhigyn hwn, a allai fod wedi cael ei gyflwyno i'r DU. Ond mae tystiolaeth genetig ddiweddar gan Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew wedi dangos ei fod yn rhywogaeth frodorol yn ei rhinwedd ei hun, sef Cotoneaster cambricus. Pan gofnodwyd ef gyntaf yn y 18fed ganrif, disgrifiwyd ef fel planhigyn a oedd wedi’i ddosbarthu’n eang yn yr ardal ond, erbyn 1978, roedd y nifer wedi gostwng i chwe phlanhigyn. Oddi ar hynny, ychwanegwyd at y boblogaeth hon trwy gyflwyno planhigion newydd a dyfwyd mewn planhigfa.

Yn ogystal â chael ei rhestru fel rhywogaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol Conwy, mae'r Cotoneaster cambricus hefyd wedi'i dynodi fel rhywogaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU - mae hyn yn tanlinellu'r angen i weithredu i warchod y rhywogaeth hon.

Anfonwyd planhigion Creigafal y Gogarth i Kew, Ness a Gardd Fotaneg Treborth i gynnal sbesimenau o'r planhigyn y tu allan i'r Gogarth. Mae ein sbesimenau wedi eu lleoli ar y calchfaen ym mhen uchaf yr ardd garegog lle mae'n tyfu mewn swbstrad calchaidd sy'n draenio'n rhwydd.

Dysgwch fwy am Gynllun Gweithredu Rhywogaeth Cotoneaster Cambricus..