Salvia pratensis – Clari'r Maes

Ailgyflwyno Clari'r Maes yn Sir Fynwy

Project gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sw Bryste a Gardd Fotaneg Treborth i ddod â Chlari'r Maes (Salvia pratensis) yn ol o ddifodiant yn y gwyllt yng Nghymru ar safle yn Sir Fynwy.

Post Blog

Stori newyddion 'Rare plant saved from extinction' gan Gyfoeth Naturiol Cymru

Salvia pratensis – Amserlen cadwraeth

1903

Fe'i cofnodwyd gyntaf yng Nghil-y-coed Sir Fynwy

1950au

Gwartheg yn pori'r safle ond poblogaethau'n aros yn iach

1960au

Ffens drydan o gwmpas y safle, y planhigion yn llai iach a ffyniannus.

1970au

Y planhigion wedi ymadfer yn dda a chofnodwyd 27 o blanhigion yn yr ychydig flynyddoedd wedyn tan y 1980au

1983

SoDdGA wedi ei ddynodi gan gynllun rheoli wedi dod i ben yn 1993

2001

Safle mewn cyflwr gwael - dim ond 2 o blanhigion a gofnodwyd. Y glaswellt yn frith o ddanadl poethion ac ysgall y maes - dim tir noeth neu wedi tarfu arno - y gwartheg yn pori pigau'r blodau

2003

Gwaith ar y safle i ganiatau i blanhigion egino trwy agor y ddaear i ddinoethi'r pridd.

2003

Casglodd Trevor Dines hadau o dan drwydded Plantlife a'u hau yn ei gartref, rhoddwyd un planhigyn i Dreborth

2008

Mewn perygl critigol yng Nghymru

2009

Y planhigyn yn Nhreborth oedd yr unig un a oedd wedi goroesi yng Nghymru

2010

Rhaglen ailgyflwyno gyda Chyfoeth Naturiol Cymru

2011

Aethpwyd â chwe phlanhigyn o stoc Treborth i Sw Bryste i gael eu croesffrwythloni gyda phlanhigion o Sir Gaerloyw - ac yna i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol at Natasha De Vere.

2012-15

Treborth yn parhau i dyfu'r 24 egin-blanhigyn - 9 planhigyn mawr ac 17 bach.

Oct 2015

Aethpwyd a 24 o blanhigion o Dreborth i Rectory Meadow yn Sir Fynwy i'w hailgyflwyno.

2016

Monitro pob mis er mwyn asesu twf, pwysau pori a niwed gan falwod du.