Digwyddiadau Preifat a Chyfleusterau
Gellir llogi rhannau o’r Ardd, yn yr awyr agored a dan do, ar gyfer digwyddiadau, gweithdai a chyfarfodydd.
- Mae’r ystafell haul yn lle golau ac agored y gellir ei defnyddio ar gyfer gweithdai, cyfarfodydd bach neu gyngherddau. Ond ar hyn o bryd nid oes ynddi llawer o wres ac ychydig iawn o oleuo. Felly mae mwy addas ar gyfer digwyddiadau yn ystod y dydd ac nid yn y gaeaf.
- Y Labordy yw ein prif ystafell adnoddau, gyda byrddau a chadeiriau, microsgopau a chyfleusterau gwneud te a choffi. Gallwn ddarparu taflunydd data a sgrin ar gyfer cyflwyniadau.
- Gellir cynnal digwyddiadau awyr agored ar raddfa fach tu allan.
Lluniaeth ysgafn
Sylwch nad oes gennym gaffi ar y safle. Mae caffi a bwytai ym Mhorthaethwy a Bangor.
Gallwch hefyd archebu bwyd o Wasanaeth Arlwyo’r Brifysgol.