Mwy o wybodaeth ...

Treborth Botanic Garden

Mae Gerddi Botaneg Treborth wedi’u lleoli ar lannau’r Fenai ar ochr Gwynedd, rhwng Pont Menai a Phont Britannia. Gellir mynd yno mewn car a thrafnidiaeth gyhoeddus o ochr Porthaethwy.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae'r bysiau rhifau X4, 4A, 57 a 62 yn rhedeg o orsaf drenau Bangor at Dafarn yr Antelope.

Mewn car

  1. O gyfeiriad Bangor, gyrrwch tuag at Borthaethwy a chymryd yr ail droad yng nghylchfan yr Antelope.
  2. Ychydig cyn croesi'r Bont, trowch i'r chwith ac ewch ar hyd y ffordd heibio stad ddiwydiannol fach, ac yna rhwng dau biler cerrig.
  3. Dilynwch y llwybr drwy'r coetir. Mae lawntiau'r Ardd Fotaneg i'w gweld ar y dde.
  4. Mae'r swyddfeydd ar y chwith wrth ymyl y maes parcio bach.

Parcio

Gellir parcio ceir tu allan i'r swyddfeydd os oes lle. Ond os nad oes lle, neu mae digwyddiad yn cael ei gynnal, mae llefydd parcio ychwanegol tu hwnt i'r Ardd wrth y trac athletau.