Project Cadwraeth Pen y Gogarth
Sefydlwyd Project Cadwraeth Planhigion Pen y Gogarth gan STAG yn 2012 er mwyn gwarchod a dathlu rhai o blanhigion mwyaf arbennig Pen y Gogarth. Glaswelltir calchfaen yw'r prif lystyfiant ar Ben y Gogarth. Er hynny, ceir darnau bach o rostir lle mae pridd o rewlifoedd yn wreiddiol wedi cronni. Ceir ardaloedd o balmant calchfaen, prysgwydd a choetir yn ogystal a chlogwyni môr uchel. Mae'r glaswelltiroedd, y rhostiroedd a'r clogwyni môr yn bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn cynnal cymunedau cyfoethog o blanhigion, pryfed ac adar. Mae nifer o rywogaethau o arwyddocad rhyngwladol. Ceir nifer o Rywogaethau Blaenoriaeth a Chynefinoedd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU ar y safle.
Mae'r rhan fwyaf o Ben y Gogarth yn cael ei ddynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig gan ei bod yn cynnwys cynefinoedd a rhywogaethau y bernir eu bod yn brin neu dan fygythiad yn Ewrop. Mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)ac fe'i cynhwysir yn yr Adolygiad Cadwraeth Natur a'r Adolygiad Cadwraeth Daearegol, sydd yn dynodi ei bwysigrwydd rhyngwladol.
Trwy uwchraddio'n ofalus hwsmonaeth planhigion yr holl dacsonau perthnasol yr ydym yn eu tyfu ar hyn o bryd, rydym wedi adeiladu palmant calchfaen mawr o fewn yr ardd greigiog bresennol ar gyfer rhai o rywogaethau glaswelltir calchaidd arbennig Pen y Gogarth.