Gweithdy Gwneud Sebon Botanegol Cartref
Tyfu’r Dyfodol
- Lleoliad:
- Gardd Fotaneg Treborth
- Amser:
- Dydd Sadwrn 2 Ebrill 2022, 10:00–13:00
- Cyswllt:
- treborth@bangor.ac.uk
Cyfle i ddysgu sut i wneud sebon naturiol, ysgafn gan ddefnyddio'r broses oer draddodiadol sydd wedi ei defnyddio ers miloedd o flynyddoedd.
Cewch greu sebonau olew olewydd naturiol yn defnyddio cynhwysion a geir yng nghypyrddau’r gegin ac olewau hanfodol a botanegion wedi’u hysbrydoli gan Ardd Fotaneg Treborth.
Oedran 16+ Gwisgwch ddillad addas rhag ofn i chi eu baeddu.
Mae'r gweithdy’n costio £15.00 y pen. Talwch yn ein siop https://shop.bangor.ac.uk/product-catalogue/treborth-botanic-garden/courses/homemade-botanical-soap-making-workshop
Cyflwynir y cwrs hwn fel rhan o broject Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Treborth.